Ryan Jones
Mae blaenwr a chyn-gapten Cymru Ryan Jones wedi ategu galwadau ar i ranbarthau Cymru gael chwarae mewn cystadleuaeth gyda chlybiau Lloegr.
Ac mae chwaraewr y Gweilch wedi dweud y byddai ef yn fwy na hapus i chwarae mewn cynghrair rygbi Prydeinig yn y dyfodol petai’n dod i hynny.
Dywedodd mai’r prif amcan ddylai fod i geisio atal y chwaraewyr gorau rhag gorfod gadael Cymru i chwarae eu rygbi ar y lefel uchaf.
“Dwi wedi dweud ers blynyddoedd y byddai cael cynghrair Brydeinig yn wych,” meddai Ryan Jones.
“Mae’n rhaid i ni greu awyrgylch ddomestig, o’r tîm cenedlaethol i lawr, ble nad yw chwaraewyr eisiau gadael. Fy mhryder i yw bod hyn am adael craith ar y gêm ddomestig sydd yn mynd i gymryd amser i wella.
“Mae’n rhaid i sêr yfory fod yn gwylio sêr heddiw, a chwarae mewn timau gyda phobl fel George [North], Leigh [Halfpenny] a Sam [Warburton].
“Dwi wedi blino efo’r peth, dwi’n gwybod fod y chwaraewyr eraill wedi blino efo’r peth, a chyhoedd Cymru hefyd. Y cynharaf gaiff hyn ei sortio, y gorau.”
Mae’r pedwar rhanbarth yn cyfarfod gydag Undeb Rygbi Cymru i drafod eu gwahaniaethau heddiw, gyda’r rhanbarthau’n awyddus i chwarae mewn cystadleuaeth gyda chlybiau Lloegr ond yr Undeb am iddyn nhw barhau i chwarae yng Nghwpan Heineken.
Mae clybiau Lloegr eisoes wedi dweud na fydden nhw am chwarae yn y gystadleuaeth honno, ar ôl i ymgais i geisio sefydlu cystadleuaeth Ewropeaidd newydd rhyngddyn nhw a chlybiau Ffrainc fethu.
Mae’r rhanbarthau wedi bygwth camau cyfreithiol i gael eu ffordd, ac oherwydd yr ansicrwydd mae nifer o sêr Cymru eisoes wedi arwyddo cytundebau i adael eu rhanbarthau ar ddiwedd y tymor.
Bydd Jonathan Davies ac Ian Evans yn ymuno ag enwau megis Jamie Roberts, Dan Lydiate, James Hook a Luke Charteris yn Ffrainc o dymor nesaf ymlaen, a Richard Hibbard yn chwarae yng nghynghrair AVIVA yn Lloegr yn 2014 hefyd, ble mae North eisoes.
Mae ansicrwydd yn parhau dros ddyfodol llu o enwau eraill o ranbarthau Cymru gan gynnwys Halfpenny, Warburton, Rhys Priestland, Bradley Davies, Alun Wyn Jones ac Adam Jones.