Bydd y pedwar rhanbarth yn cwrdd ag Undeb Rygbi Cymru (URC) heddiw i geisio datrys rhai o’r problemau sydd rhyngddyn nhw a thrafod y ffordd ymlaen.
Mae’r rhanbarthau yn anhapus fod URC yn ceisio’u gorfodi nhw i chwarae yng Nghwpan Heineken y flwyddyn nesaf, gyda’r Gweilch, Gleision, Scarlets a’r Dreigiau eisiau chwarae yn erbyn clybiau Lloegr.
Mae’r rhanbarthau eisoes wedi bygwth camau cyfreithiol yn erbyn yr Undeb os ydyn nhw’n ceisio eu hatal rhag cymryd rhan mewn cystadlaethau yn erbyn timau o Loegr, gan gynnwys sôn eu bod yn ystyried ymuno â chynghrair AVIVA.
Roedd y rhanbarthau wedi gobeithio cymryd rhan yn y Cwpan Pencampwyr Rygbi oedd i fod i gymryd lle Cwpan Heineken y tymor nesaf, ond bellach mae pob gwlad arall ac eithrio Lloegr wedi dweud y byddan nhw’n parhau yn yr Heineken.
O ganlyniad, mae clybiau Lloegr wedi dweud na fyddan nhw’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.
‘Cefnogi’n gilydd’
Dywedodd prif weithredwr Caerlŷr Peter Wheeler, oedd yn un o’r rhai a awgrymodd y gallai rhanbarthau Cymru ymuno a chynghrair Lloegr y tymor nesaf, wrth BBC Radio Cymru fod clybiau’r ddwy wlad wedi “cefnogi’i gilydd yn y gorffennol a dwi’n gobeithio y gwnawn ni yn y dyfodol hefyd”.
Mynnodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis fod yr undeb wedi ymrwymo i gefnogi’r rhanbarthau a sicrhau bod chwaraewyr gorau Cymru’n aros yn y wlad, gyda’r Undeb yn dweud y bydden nhw’n cynnig cytundebau i rai o brif sêr Cymru.
Ond mae rhai eisoes wedi penderfynu gadael oherwydd yr ansicrwydd, gyda Jonathan Davies (i Clermont), Ian Evans (i Toulon) a Richard Hibbard (i Gaerloyw) i gyd ymysg yr enwau sydd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gadael Cymru yn haf 2014.
Mae capten Cymru a blaenasgellwr y Gleision Sam Warburton hefyd wedi rhoi terfyn amser ar ei ranbarth i ddod i gytundeb â’r Undeb erbyn heddiw, neu fe fydd yntau’n ystyried gadael.
Dywedodd hyfforddwr y Scarlets Simon Easterby fod y cyfarfod yn un “anferth” a bod y cyfnod yma’n un o’r mwyaf erioed yn y gêm broffesiynol.
“Mae’n gyfle i amddiffyn y gêm yma am y pedair i bum mlynedd nesaf,” meddai Easterby.