Casnewydd 0–3 Peterborough
Mae Casnewydd allan o Dlws Johnstone’s Paint ar ôl colli yn erbyn Peterborough ar Rodney Parade nos Fawrth yn rownd gynderfynol adran y de.
Roedd talcen caled yn wynebu Casnewydd wrth iddynt groesawu tîm sydd yn gwneud yn dda mewn adran uwch, ac roedd ganddynt fynydd i’w ddringo ar ôl ychydig dros ddeuddeg munud wedi i Ngosi Ntlhe roi’r ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd dda o bellter.
Wedi dweud hynny, arhosodd Casnewydd yn y gêm am weddill y naw deg munud fwy neu lai. Ond wrth iddynt chwilio am y gôl hollbwysig honno fe ymddangosodd bylchau yn y cefn ac fe rwydodd Grant McCann a Nathaniel Mendez-Laing ail a thrydedd yr ymwelwyr i roi sgôr terfynol braidd yn gamarweiniol i’r gêm.
Golyga’r canlyniad mai dim ond y gynghrair sydd gan Gasnewydd i ganolbwyntio arni bellach ac mae ganddynt sawl gêm bwysig dros yr wythnosau nesaf gan ddechrau gyda thaith i Porstmouth brynhawn Sadwrn.
.
Casnewydd
Tîm: Stephens (Pidgeley 60′), Washington, Oshilaja, Chapman, Hughes (Crow 45′), Pipe, Willmott, Sandell, Jolley, Worley, Naylor (Flynn 45′)
Cardiau Melyn: Willmott, Sandell
.
Peterborough
Tîm: Olejnik, Little (Knight-Percival 37′), Bostwick, Brisley, Ntlhe, McCann, Anderson, Swanson (Ferdinand 61′), Tomlin, Assombalonga, Jeffers (Mendez-Laing 71′)
Goliau: Ntlhe 13’, Mcann 90’, Mendez-Laing 90’
Cardiau Melyn: Swanson, Tomlin
.
Torf: 1,765