Ni lwyddodd Ail Dîm Cymric i ddal eu gafael ar fuddugoliaeth hollbwysig wrth i Lanrhymni achub pwynt am gêm gyfartal 2-2.

Doedd gan Dîm Cyntaf Cymric ddim gêm y penwythnos yma, felly roedd sylw ‘Tîm yr Wythnos’ golwg360 i gyd yn syrthio ar y bechgyn yn Adran Ail Dimau Caerdydd a’r Cyffiniau.

Roedd hi’n ymddangos fel petai goliau gan Dylan Owen ac Iwan ‘Bych’ Hughes wedi bod yn ddigon i selio buddugoliaeth i Gymric ar gaeau Pontcanna, cyn i gôl hwyr gan y gwrthwynebwyr eu hamddifadu o’r tri phwynt.

Cyn i’r gêm gychwyn roedd Cymric wedi targedu hon fel un yr oedden nhw am ei ennill er mwyn aros yn y ras am y bencampwriaeth – yn enwedig o gofio’u bod nhw wedi trechu’r un gwrthwynebwyr 12-1 yn gynharach yn y tymor.

Roedd hi’n gêm agos am yr hanner awr gyntaf, gyda’r ddau dîm yn amddiffyn yn gadarn. Methodd Llion Parry gyfle gwych i roi Cymric ar y blaen, ond rhywsut llwyddodd i danio’r bêl dros y trawst o gwta bum llathen!

Fe gododd pryderon Cymric ar ôl i’r golwr Gareth Jones orfod gadael y maes ag anaf i’w ben-glin, ond erbyn hanner amser roedd hi dal yn ddi-sgôr, a Chymric wedi methu a chymryd mantais o’u cyfleon.

Aeth y gêm yn llawer mwy bywiog wedi’r egwyl, gyda Chymric yn edrych yn beryglus. Fe wnaed newid dwbl ganddynt i geisio newid y gêm, gyda Cai Llwyd ac Ieuan Parry yn dod ymlaen am Rob Gaffey a Llion Parry – er mawr siom i’r chwarewr-reolwr Gaffey!

Roedd hi’n ymddangos fel petai’r newidiadau wedi gwneud gwahaniaeth – ond yn anffodus nid i Cymric, gyda Llanrhymni’n llwyddo i gipio gôl ar ôl chwarae blêr amddiffynnol gan Dewi ‘Tal’ Davies a’r ymosodwr yn taro ergyd wych i gornel uchaf y rhwyd o ugain llath.

Ond gyda dim ond Cwarter awr yn weddill, daeth Cymric yn ôl i mewn i’r gêm diolch i sgiliau dawnus y capten Dyfan Jones a’i esgidiau llachar newydd, a lwyddodd i lamu y tu ôl i’r amddiffyn cyn sgwario’r bêl i ‘Bych’ Hughes i unioni’r sgôr.

Symudwyd Sion ‘Touch’ Lewis o safle’r cefnwr chwith i’r ymosod er mwyn mynd am y tri phwynt, ac fe wobrwywyd y penderfyniad bron y syth wrth i ‘Touch’ gael ei wthio yn ei gefn yn y cwrt cosbi. Sgoriwyd y gic o’r smotyn yn wych gan Dylan Owen i roi Cymric ar y blaen.

Ond gydag ond pum munud yn weddill roedd esgeulustod amddiffynnol Cymric yn parhau, gyda Dewi ‘Tal’ Davies, yr amddiffynnwr chwe throedfedd wyth modfedd, yn cael ei guro i beniad gan ymosodwr bach Llanrhymni, a blannodd ei beniad i’r rhwyd heibio i Alex Hales wrth y postyn cyntaf.

Doedd dim amser am un gôl arall, gyda’r sgôr terfynol yn 2-2, a’r canlyniad yn un rhwystredig tu hwnt i Cymric.

Mae’r canlyniad yn cadw Cymric yn drydydd yn y tabl, saith pwynt y tu ôl i’r brig ond wedi chwarae un gêm yn llai, tra bod Llanrhymni’n aros yn bumed allan o’r wyth tîm.

Cofiwch gysylltu os hoffech chi’ch tîm chi i gael sylw gan golwg360 fel ein ‘Tîm yr Wythnos’, unai drwy e-bost neu ar Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #timyrwythnos.

Seren y gêm: Dylan Owen

Tîm Cymric:

Gareth Jones, Geraint Roberts, Huw Savage, Dewi ‘Tal’ Davies, Sion ‘Touch’ Lewis, Daniel Gwyn Hughes, Rob Gaffey, Dylan Owen, Dyfan Jones, Iwan ‘Bych’ Hughes, Llion Parry

Eilyddion: Paul ‘Potts’ Lucas, Edward ‘Ffermwr’ Rowlands, Cai Llwyd, Alex Hales, Ieuan Parry

Rheolwr: Mei Tomos