Leigh Halfpenny
Leigh Halfpenny sydd wedi ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru eleni, mewn seremoni yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd neithiwr.

Mae’r wobr yn gap ar flwyddyn lwyddiannus i’r cefnwr ar ôl bod yn rhan o dîm rygbi Cymru, a oedd yn fuddugol ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a thîm y Llewod ar eu taith lwyddiannus yn Awstralia.

Wrth dderbyn ei wobr, dywedodd: “Mae derbyn y wobr yma yn anrhydedd fawr ac mae cael bod yn rhan o restr mor llwyddiannus o enillwyr yn fraint.”

“Mae’n llwyddiant i wedi dibynnu ar safon hyfforddiant tîm rygbi Cymru ac agwedd benderfynol Gats (Warren Gatland).

“Mae’r flwyddyn yma wedi bod fel breuddwyd, allwn i ddim wedi dychmygu gwell.”

Roedd pedwar enw arall ar y rhestr fer a gafodd ei ddewis gan y cyhoedd – sef Gareth Bale, Non Stanford, Aled Sion Davies a Becky James. Non Stanford ddaeth yn ail, a’r seiclydd Becky James yn drydydd.

Cafodd Warren Gatland ei enwi fel Hyfforddwr y Flwyddyn ac fe gafodd tîm rygbi Cymru eu henwi fel Tîm y Flwyddyn, ar ôl bod y tîm cyntaf i ddal eu gafael ar eu safle fel pencampwyr y Chwe Gwlad ers 1979.