Abertawe 1–1 Hull

Fe orffennodd hi’n gyfartal ar Stadiwm Liberty nos Lun wrth i Abertawe groesawu Hull i dde Cymru.

Rhoddodd cyn chwaraewr yr Elyrch, Danny Graham, yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn yr hanner cyntaf, ond achubodd Chico Flores bwynt i’r tîm cartref gyda gôl ar yr awr.

Hull oedd y tîm gorau o dipyn yn yr hanner cyntaf ac roeddynt yn haeddu bod ar y blaen ar yr egwyl diolch i foli Graham ar y postyn pellaf o groesiad Ahmed Elmohamady yn dilyn camgymeriad amddiffynnol Ashley Williams.

Roedd yr Elyrch yn well wedi’r egwyl ac roeddynt yn gyfartal pan wyrodd Chico groesiad nerthol Jonjo Shelvey i gefn y rhwyd.

Rheolodd Abertawe y meddiant wedi hynny ond ychydig o gyfleoedd a grëwyd gan y ddau dîm. Gallai Hull fod wedi cael cyfle da i’w hennill hi wedi i Dwight Tiendalli lawio’r bêl yn y cwrt cosbi ond penderfynodd Martin Atkinson nad oedd hi’n gic o’r smotyn.

Cafodd Miguel Michu gyfle hwyr i gipio’r tri phwynt i Abertawe hefyd ond arbedodd Allan McGregor ei ergyd wrth i’r ddau dîm orfod bodloni ar bwynt.

Mae’r pwynt hwnnw’n ddigon i godi Abertawe i’r hanner uchaf, gyda thîm Michael Laudrup bellach yn ddegfed.

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Tiendalli, Davies, Cañas, Chico, Williams, Dyer, De Guzmán (Pozuelo 56′), Michu, Shelvey, Hernández (Routledge 67′)

Gôl: Chico 60’

Cardiau Melyn: Williams 80’, Shelvey 80’, Chico 83’

.

Hull

Tîm: McGregor, Elmohamady, Figueroa, Davies, Bruce, Chester, Livermore, Meyler, Graham (Koren 64′), Sagbo, Huddlestone

Gôl: Graham 9’

Cardiau Melyn: Livermore 41’, Figueroa 78’, Sagbo 80’

.

Torf: 19,303