Wrecsam 1–2 Rhydychen
Mae Wrecsam allan o’r Cwpan FA ar ôl colli yn yr ail rownd yn erbyn Rhydychen ar y Cae Ras nos Lun.
Er i Joe Clarke roi’r Dreigiau ar y blaen yn yr hanner cyntaf fe darodd yr ymwelwyr yn ôl gyda dwy gôl mewn tri munud gan James Constable a Ryan Williams ar ddechrau’r ail gyfnod.
Roedd talcen caled yn wynebu Wrecsam wrth groesawu’r tîm sydd ar frig yr Ail Adran i ogledd Cymru ond roedd y tîm cartref yn hapus ar hanner amser wedi i foli Clarke o groesiad Dean Keates eu rhoi ar y blaen.
Ond newidiodd popeth yn sydyn iawn ar ddechrau’r ail hanner. Unionodd Constable i ddechrau yn dilyn gwaith creu Dave Kitson ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach diolch i beniad Williams.
Dim lwc i Wrecsam yn y Cwpan FA felly ond bydd cyfle arall i dîm Andy Morrell brynhawn Sadwrn wrth iddynt ymweld â Luton yn Nhlws yr FA y tro hwn – y gystadleuaeth y maent yn ddeiliaid arni wrth gwrs.
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Carrington, Ashton, Keates (Morrell 83′), Wright, Artell, Harris, Clarke, Bishop, Ormerod (Cieslewicz 64′), Hunt (Ogleby 64′)
Gôl: Clarke 29’
.
Rhydychen
Tîm: Clarke, Bevans, Newey, Davies, Hunt, Mullins, Williams (Smalley 87′), Ruffles, Constable (Long 89′), Kitson, Rose
Goliau: Constable 54’, Williams 56’
Melyn: Kitson 90’
.
Torf: 2,906