Dreigiau Casnewydd Gwent 40–24 Bordeaux-Begles
Cadwodd y Dreigiau eu gobeithion yn fyw yn y Cwpan Amlin gyda buddugoliaeth dros Bordeaux-Begles ar Rodney Parade nos Wener.
Sgoriodd y Cymry bum cais yn erbyn y Ffrancwyr i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws mewn gêm gyffrous.
Hanner Cyntaf
Cafodd y Dreigiau’r dechrau perffaith gyda dau gais yn y deg munud cyntaf. Croesodd y canolwr, Pat Leach, i ddechrau cyn i’r asgellwr, Matthew Pewther, ychwanegu’r ail i sefydlu deuddeg pwynt o fantais i’r tîm cartref.
Cofrestrodd Manu Saubusse bwyntiau cyntaf yr ymwelwyr wedi hynny gyda chic gosb ond ymestynnodd y Dreigiau’r fantais o fewn dim pan diriodd Hallam Amos y trydydd cais.
Sgoriodd wythwr Bordeaux, Jefferson Poirot, gais cyntaf ei dîm wedi hynny ond y Dreigiau gafodd air olaf yr hanner cyntaf wrth i Jason Tovey lwyddo gyda chic gosb i ychwanegu at ei ddau drosiad cynharach, 22-10 y sgôr ar yr egwyl.
Ail Hanner
Ychwanegodd Tovey dri phwynt arall yn gynnar yn yr ail hanner ond roedd Bordeaux yn ôl ynddi wedi 56 munud ar ôl i’r dyfarnwr ddynodi cais cosb iddynt.
Ymatebodd y Dreigiau’n syth serch hynny gyda chais i Toby Faletau, sgôr a sicrhaodd y pwynt bonws i’r tîm cartref, a’r fuddugoliaeth hefyd i bob pwrpas gyda chwarter y gêm i fynd.
Doedd dim amheuaeth am y canlyniad yn dilyn cic gosb arall gan Tovey a chais i Ashley Smith, a chais cysur yn unig oedd ymgais hwyr eilydd yr ymwelwyr, Jean-Baptiste Lamotte. 40-24 y sgôr terfynol o blaid y Dreigiau.
Mae’r canlyniad yn codi’r Cymry i frig grŵp 2 dros nos o leiaf, er bod Caerfaddon yn debygol o godi yn ôl drostynt gyda buddugoliaeth ym Mogliano ddydd Sadwrn.
.
Dreigiau
Ceisiau: Pat Leach 7’, Matthew Pewther 9’, Hallam Amos 29’, Toby Faletau 58’, Ashley Smith 72’
Trosiadau: Jason Tovey 7’, 29’, 58’
Ciciau Cosb: Jason Tovey 40’, 46’, 65’
.
Bordeaux-Begles
Ceisiau: Jefferson Poirot 36’, Cais Cosb 56’, Jean-Baptiste Lamotte 76’
Trosiadau: Manu Saubusse 36’, 56’, Romain Lonca 76’
Cic Gosb: Manu Saubusse 21’