Dim ond un o’r ddau ‘Tîm yr Wythnos’ fydd yn chwarae’r penwythnos yma – ond fe fyddan nhw’n ffyddiog o ganlyniad da o gofio’r hanes diweddar.

Bydd Ail Dîm Clwb Cymric yn gobeithio parhau â’u rhediad da o ganlyniadau yn ddiweddar wrth iddyn nhw herio Llanrhymni ddydd Sadwrn.

Mae Cymric yn drydydd yn eu tabl yng nghynghrair Ail Dimau Caerdydd a’r Cyffiniau ar hyn o bryd, a gyda’u gwrthwynebwyr yn 6ed allan o’r wyth tîm, Cymric fydd y ffefrynnau yn mynd mewn i’r gêm.

Mae’r Ail Dîm wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn y gynghrair ers iddyn nhw golli 1-0 i Grange Albion yn yr ornest agoriadol – gan gynnwys chwalu Llanrhymni 11-0!

Ac fe fyddan nhw’n gobeithio cau’r bwlch ar y brig rhyngddyn nhw a Canton Liberals, sydd chwe phwynt o’u blaen ond wedi chwarae dwy gêm yn fwy.

“Rydan ni’n reit ffyddiog o ennill fory, ar ôl llwyddo i’w curo nhw 11-0 yn gynharach,” meddai hyfforddwr-chwaraewr yr Ail Dîm Rob Gaffey. “Roedden ni’n dda iawn ar y diwrnod a gobeithio allwn ni neud yr un peth eto.”

Gwyliau cynnar i’r Tîm Cyntaf

Ond mae gan y Tîm Cyntaf benwythnos rhydd, ar ôl i’w gêm gwpan W John Owen nhw yn erbyn AFC Bargoed gael ei gohirio nes yr wythnos nesaf oherwydd bod cae eu gwrthwynebwyr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rygbi!

Roedd Cymric wedi trechu’r gwrthwynebwyr hynny ddwywaith y tymor diwethaf yn y gynghrair pan oedden nhw yn yr Ail Adran gyda’i gilydd, gyda rheolwr-chwaraewr y Tîm Cyntaf Stuart Williams yn ffyddiog fod ganddynt siawns dda o ennill os eu bod nhw’n chwarae “ar ein gorau” yr wythnos nesaf.

Ac mae Stuart Williams hefyd yn gobeithio gall y tîm droi cornel dros gyfnod y Nadolig unwaith y byddan nhw’n ôl yn chwarae yn y gynghrair.

Maen nhw’n 15fed allan o 16 ym Mhrif Adran Cynghrair Amatur De Cymru ar hyn o bryd, ond dim ond tri phwynt i ffwrdd o fod yn saff ac wedi chwarae llai o gemau na’r rhan fwyaf o dimau’r adran.

“Mae gyda ni gnewyllyn da o dîm yma,” meddai Stuart Williams. “Ond roedden ni wedi methu cael ein sgwad cryfaf allan yn gyson am wahanol resymau tan ryw 6-7 wythnos yn ôl.

“Mae’r gynghrair yn dynn iawn ar hyn o bryd. Rydan ni angen dechrau troi perfformiadau da i mewn i fuddugoliaethau, mae timau’n fwy ‘ruthless’ ar y lefel yma felly mae’n rhaid i ni fod ar ein gorau.

“Y tymor diwethaf roedden ni’n ennill gemau heb fod ar ein gorau, tra’r flwyddyn yma rydyn ni wedi bod yn chwarae’n dda ond colli.

“Rydyn ni’n anelu at fod tua chanol y tabl erbyn diwedd y tymor.”

Dyfodol disglair i’r clwb?

Dywedodd Stuart Williams hefyd fod cynlluniau ar y gweill a fyddai’n galluogi’r clwb i dyfu’n bellach petai nhw’n cael eu gwireddu.

“Mae’r clwb yn edrych i ddatblygu’n bellach yn yr hir dymor, rydyn ni’n edrych i gael caniatâd gan y Cyngor ar gyfer cae ein hunain yn Llandaf. Os cawn ni hynny, yn sicr wedyn fe fyddwn ni’n gallu edrych i ddringo’r cynghreiriau.

“Ond mae’n bwysig ein bod ni’n cadw’r ethos Cymreig yn y clwb, a ddim yn dechrau talu chwaraewyr. Mae pob chwaraewr yn talu £15 y mis ar hyn o bryd i chwarae, ac felly rydyn ni eisiau i bethau aros.”

Gallwch weld ein cyflwyniad i Glwb Cymric, gan gynnwys clipiau fideos o’r chwaraewyr yn cyflwyno’i hunain, wrth ddilyn y linc. Cofiwch gysylltu os ydych chi am i’ch tîm chi gael sylw wrth ein e-bostio ni neu chysylltu ar Twitter gan defnyddio’r hashnod #timyrwythnos.