Bydd codwyr pwysau, gan gynnwys enillwyr y Gemau Olympaidd a rhai sydd â’u gobeithion yn uchel ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, yng Nghaerdydd yfory wrth iddyn nhw gystadlu yng nghystadleuaeth y Tair Gwlad Geltaidd.
Mae Gareth Evans a Michaela Breeze ymysg y rhai fydd yn cystadlu yn y frwydr rhwng Cymru, Yr Alban a’r Iwerddon. Bydd y gystadleuaeth yn dechrau am 11 o’r gloch bore fory yn Dragon Cross Fit art îm gyda’r nifer uchaf o bwyntiau ar ddiwedd y dydd fydd yn ennill y frwydr.
‘‘Mae Cymru yn hynod o falch o gael cynnal y gystadleuaeth hon. Bydd gan Gymru a’r Alban dimau cryf ac fe ddylai fod yn gystadleuaeth dda ac yn ddiddorol i’w gwylio. Bydd nifer o’r cystadleuwyr yn gobeithio gwneud yn dda fel eu bod yn medru ennill yr hawl i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nghaeredin 2014,’’ meddai Simon Roach, Cyfarwyddwr Codi Pwysau Cymru.