Leigh Halfpenny
Mae’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi cyhoeddi mai Kieran Read yw enillydd gwobr Chwaraewr y Flwyddyn 2013 – gan guro’r Cymro Leigh Halfpenny.
Halfpenny oedd yr unig chwaraewr o Brydain ar y rhestr fer o bum enw, oedd yn cynnwys Read, Sergio Parisse o’r Eidal, Eben Etzebeth o Dde Affrica a Ben Smith o Seland Newydd.
Roedd yr wythwr Read yn rhan o dîm Seland Newydd a enillodd bob un o’u pedwar ar ddeg gêm yn ystod y flwyddyn, gan gipio gwobr Tîm y Flwyddyn yn y broses.
Ac fe gwblhawyd yr hat-tric gan eu rheolwr Steve Hansen, cyn-rheolwr ar Gymru, a enillodd dlws Hyfforddwr y Flwyddyn am ei waith gyda’r All Blacks.
Mae’n golygu fod y wobr am y chwaraewr gorau wedi mynd i rywun o Seland Newydd am bedair o’r pum mlynedd diwethaf, gyda Dan Carter yn ennill yn 2012 a Richie McCaw yn ennill yn 2009 a 2010.
Thierry Dusautoir o Ffrainc oedd yr enillydd yn 2011, a Shane Williams yn 2008 oedd yr unig dro hyd yn hyn i Gymro gipio’r wobr.
Ond fe fydd gan Halfpenny gyfle i ennill tlysau eraill cyn diwedd y flwyddyn – mae hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn ogystal â Phersonoliaeth Chwaraeon Cymru’r Flwyddyn.