Malky Mackay
Mae’r amddiffynnwr ifanc Declan John wedi arwyddo estyniad “hir dymor” i’w gytundeb gyda Chaerdydd.
Trydarodd y cefnwr chwith 18 oed y newyddion, gyda rheolwr y clwb Malky Mackay hefyd yn cadarnhau wrth y BBC fod John am aros.
“Hynod o falch o gyhoeddi mod i wedi arwyddo cytundeb hir dymor newydd gyda Dinas Caerdydd!” meddai John ar Twitter neithiwr.
Mae wedi cael ei flas gyntaf o chwarae gyda’r tîm cyntaf y tymor hwn, gan chwarae yng ngêm agoriadol Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn West Ham ym mis Awst oherwydd anaf i Andrew Taylor.
Ers hynny mae wedi chwarae dwy gêm i’r clwb yng Nghwpan Capital One – yn ogystal ag ennill ei gap cyntaf dros Gymru wrth iddyn nhw drechu Macedonia 1-0 ym mis Hydref.
Roedd hefyd yn gapten ar dîm dan-19 Cymru yn ddiweddar wrth iddyn nhw selio lle yn Rownd Elit Pencampwriaeth Dan-19 Ewrop ar ôl ennill 6-0 yn erbyn Moldova ychydig wythnosau yn ôl.
“Mae’n un arall o’r talentau ifanc ac rydym ni am wneud yn siŵr fod gennym ni ef am y tymor hir,” meddai Mackay.
“Mae’n strategaeth hir dymor gyda Declan er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n ei ddatblygu yn y ffordd orau fel nad yw’n chwarae gormod yn rhy gynnar.
“Mae wedi cael blas o chwarae gyda’r tîm cyntaf ac wedi cael blas o bêl-droed rhyngwladol sydd yn wych i’r clwb ac iddo ef, ac i’r gwaith mae’r hyfforddwyr wedi’i wneud gydag ef.
“Dylen nhw fod yn falch o’r cynnydd y mae wedi’i wneud ac mae llawer mwy i ddod.”