Gareth Thomas
Mae cyn chwaraewr rygbi undeb rhyngwladol Cymru, Gareth Thomas, wedi lleisio ei  gefnogaeth i  gyhoeddiad Tom Daley ei fod yn hoyw.

Dywedodd Gareth Thomas ei fod yn credu y gall y deifiwr 19 mlwydd oed ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athletwyr i fod yn agored ac yn onest am eu rhywioldeb.

Meddai Thomas, a gyhoeddodd ei fod yn hoyw yn 2009, mewn blog ei fod yn gobeithio y byddai’r newydd yn helpu newid y ffordd mae pobl hoyw a deurywiol yn cael eu gweld a’u trin yn y byd chwaraeon ar draws y byd.

Ychwanegodd Thomas: “Mae Tom yn ddeifiwr gwych a’r unig beth yw hyn yw datganiad o bwy ydi o’n rhywiol, nid yw datganiad o bwy ydy o fel person.

“Rwy’n gwybod ei fod yn fachgen ifanc hynod lwyddiannus gyda’i fywyd o’i flaen  ond rwy hefyd yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn gwneud ei fywyd hyd yn oed yn well fyth.”