Justin Edinburgh
Mae Cyfarwyddwr Pêl-droed Casnewydd Tim Harris wedi dweud fod y rheolwr Justin Edinburgh yn hapus iawn gyda’r clwb a bod ganddo waith i’w orffen yno, yn sgil diddordeb gan Portsmouth.
Cafodd Guy Whittingham ei ddiswyddo fel rheolwr y clwb o Dde Lloegr yr wythnos diwethaf, ac Edinburgh yn cael ei ystyried yn un o’r ceffylau blaen ar gyfer y swydd.
Ond fe gadarnhaodd Casnewydd mewn datganiad ar wefan y clwb ddoe eu bod wedi gwrthod caniatâd i Portsmouth siarad gydag Edinburgh, gyda’r rheolwr ei hun yn mynegi ei fod yn hapus yn ei swydd bresennol.
Hapus yn y swydd
“Rwy’n fwy na hapus yn y clwb yma [Casnewydd],” meddai Edinburgh ychydig ddyddiau yn ôl pan gysylltwyd ef gyda swydd Portsmouth i ddechrau. “Mae’n glwb gwych … dyw’r glaswellt ddim wastad yn well ar yr ochr arall, ac mae gen i gefnogaeth wych gan y bwrdd a pherthynas dda gyda Tim Harris.”
Ac mae Harris wedi dweud wrth BBC Radio Sport nad oes gan Edinburgh ddiddordeb mewn symud i Fratton Park.
“Mae’n hapus iawn yn y clwb yma ac mae’r cefnogwyr yn dwlu arno,” meddai. “Bydd amser yn dod pan fydd e’n edrych ar rywbeth a dweud ‘mae gen i ddiddordeb yn hwnna oherwydd ei statws’.
“Mae Portsmouth yn glwb pêl-droed mawr iawn, a’r ffaith yw eu bod nhw wedi disgyn yn sylweddol ac yn yr un cynghrair a ni.
“Dwi’n teimlo ei fod yn meddwl nad yw wedi gorffen ei waith yma gyda ni eto. Mae hynny’n wych o’n safbwynt ni.”
Yr Alltudion yn hedfan
Mae Casnewydd eisoes yn hedfan yn uchel yng Nghynghrair Dau y tymor hwn, ar ôl ennill dyrchafiad drwy’r gemau ail gyfle’r tymor diwethaf ar ôl trechu Wrecsam 2-0 yn y rownd derfynol.
Ar hyn o bryd maen nhw’n wythfed yn y tabl ar 31 pwynt, ond dim ond tri phwynt y tu ôl i’r brig, tra bod Portsmouth yn 17eg yn y tabl ar 21 pwynt.
Disgynnodd Portsmouth o Adran Un y llynedd, ar ôl bod mewn trafferthion ariannol ers blynyddoedd. Roedden nhw’n chwarae yn yr Uwch Gynghrair mor ddiweddar â 2010, yr un flwyddyn a gollon nhw yn rownd derfynol Cwpan yr FA i Chelsea.
Roedden nhw eisoes wedi ennill y tlws hwnnw ddwy flynedd yn gynt, gan drechu Caerdydd 1-0 yn y ffeinal yn 2008.
Cafodd Edinburgh, a benodwyd yn rheolwr ar Gasnewydd yn 2011, gyfnod yn chwarae i Portsmouth rhwng 2000 a 2003, gan wneud 34 ymddangosiad.