Leinster 36–19 Scarlets

Cafwyd gwledd o geisiau ar yr RDS yn Nulyn nos Sadwrn wrth i Leinster drechu’r Scarlets yn y RaboDirect Pro12.

Cyfrannodd yr ymwelwyr o Gymru dri ond croesodd y tîm cartref am bump wrth ennill y gêm yn gyfforddus.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Scarlets yn dda ond Leinster a gafodd y pwyntiau cyntaf serch hynny wrth i Ian Madigan drosi cic gosb wedi wyth munud.

Roedd y Gwyddelod ym mhellach ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach wedi i’r canolwr, Brendan Macken, dorri trwy’r llinell amddiffynnol yn rhy hawdd o lawer i sgorio cais cyntaf y gêm.

Dyfarnwyd ail gais i’r tîm cartref hanner ffordd trwy’r hanner, cais cosb y tro hwn wedi i Fois y Sosban gael eu cosbi dro ar ôl tro mewn cyfres o sgrymiau.

Ac roedd y gêm fwy neu lai drosodd wedi llai na hanner awr ar ôl i Jack McGrath sgorio trydydd cais Leinster. Plymiodd y prop trwy bentwr o gyrff i dirio o dan y pyst ac roedd dau bwynt ar hugain rhwng y ddau dîm yn dilyn trosiad Madigan.

Cafodd y Scarlets eu cyfnod gorau o’r hanner yn y munudau olaf ond daliodd amddiffyn Leinster yn gryf, hyd yn oed wedi i Leo Cullen gael ei anfon i’r gell gosb am droseddu cyson.

Ail Hanner

Dechreuodd y Scarlets yn dda wedi’r egwyl ac roeddynt yn haeddu sgorio pwyntiau cyntaf yr ail gyfnod pan groesodd Gareth Davies am gais. Llwyddodd y mewnwr i gyraedd y llinell er na chafodd sylfaen gwych gan sgrym bump ymosodol yr wyth blaen.

Derbyniodd wythwyr y Scarlets, Sione Timani, gerdyn melyn toc cyn yr awr am faglu Lote Tuqiri, ond yr ymwelwyr a gafodd y cais nesaf serch hynny.

A thipyn o gais oedd o hefyd; dechreuodd Jordan Williams wrthymosodiad yn ei hanner ei hun, chwaraeodd yr olwyr i gyd eu rhan a gorffennodd Gareth Maule y symudiad. 22-12 yn dilyn trosiad Aled Thomas a llygedyn o obaith i Fois y Sosban o bosib.

Diflannodd y llygedyn hwnnw pan groesodd Eoin Reddan am bedwerydd cais y Gwyddelod ar yr awr a choronwyd perfformiad pum seren pan sgoriodd Zane Kirchner bumed cais Leinster yn y munudau olaf.

Fe gafodd Adam Warren gais cysur i’r Cymry wedi hynny ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi. Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn chweched safle tabl y Pro12 ond yn codi Leinster i’r ail safle.

.

Leinster

Ceisiau: Brendan Macken 10’, Cais Cosb 20’, Jack McGrath 27’, Eoin Reddan 61’, Zane Kirchner 76’

Trosiadau: Ian Madigan 21’, 28’, 63’, 78’

Cic Gosb: Ian Madigan 8’

Cerdyn Melyn: Leo Cullen 39’, Brendan Macken 78’

.

Scarlets

Ceisiau: Gareth Davies 47’, Gareth Maule 58’, Adam Warren 80’

Trosiadau: Aled Thomas 59’, 80’

Cerdyn Melyn: Sione Timani 51’