Gleision Caerdydd 10–31 Munster

Y Gleision oedd yr unig ranbarth o Gymru i golli yn y RaboDirect Pro12 y penwythnos hwn. Cawsant eu curo gan Munster ar Barc yr Arfau nos Sadwrn.

Roedd y Gwyddelod wedi sgorio eu pedwerydd cais yn gynnar yn yr ail hanner ac er na wnaethant ychwanegu dim wedi hynny, roedd hi’n fuddugoliaeth ddigon cyfforddus.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Gleision yn ddigon addawol ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda chic gosb Simon Humberstone wedi 13 munud.

Tarodd Munster yn ôl yn syth gyda chais cyntaf y gêm i’r cefnwr, Felix Jones. Cymerwyd cic gosb gyflym, torrodd Casey Laulala y llinell fantais wrth i amddiffyn y Gleision lithro ar y cae bob tywydd a chwblhaodd Jones y symudiad o dan y pyst.

Daeth Munster yn fwyfwy i’r gêm wedi hynny a manteisiodd y bachwr, Damien Varley, ar amddiffyn gwan i sgorio’r ail wedi 27 munud ar ôl codi’r bêl o fôn y ryc bum medr allan.

Ychwanegwyd trydydd cais yn fuan wedyn wrth i’r Gwyddelod ddechrau rheoli. Ciciodd Humberstone y meddiant i ffwrdd yn ardal 22 medr y Gleision a lledwyd y bêl yn gyflym o’r chwith i’r dde i alluogi’r prop, James Cronin, dirio.

Roedd JJ Hanrahan eisoes wedi trosi’r tri chais cyn iddo ychwanegu cic gosb dri munud cyn yr egwyl, 3-24 y sgôr ar yr hanner.

Ail Hanner

Roedd y gêm fwy neu lai drosodd pan sicrhaodd Munster bwynt bonws gyda phedwerydd cais dri munud wedi’r egwyl. Yr asgellwr, Andrew Conway, oedd y sgoriwr y tro hwn yn dilyn gwaith da gan Laulala a Jones.

Wnaeth y Gleision ddim rhoi’r ffidl yn y to ac fe ddaeth cais haeddianol iddynt wedi deg munud o’r ail hanner. Roedd amddiffyn Munster i lawr i bedwar ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn CJ Stander a manteisiodd y bachwr, Kristian Dacey, gan dirio yn dilyn sgarmes symudol. 10-31 yn dilyn trosiad Humberstone ond mynydd i’w ddringo i’r Gleision o hyd.

Roedd hwnnw’n fynydd rhy uchel. Fe frwydrodd y Gleision yn ddewr ond roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus iawn i Munster yn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi Munster yn ôl i frig y Pro12, wedi iddynt ildio’r safle hwnnw i’r Gweilch am ychydig oriau. Mae’r Gleision ar y llaw arall yn aros yn wythfed.

.

Gleision

Cais: Kristian Dacey 50’

Trosiad: Simon Humberstone 50’

Cic Gosb: Simon Humberstone 13’

.

Munster

Ceisiau: Felix Jones 17’, Damien Varley 27’, James Cronin 31’, Andrew Conway 43’

Trosiadau: JJ Hanrahan 17’, 27’, 31’, 43’

Cic Gosb: JJ Hanrahan 37’

Cardiau Melyn: CJ Stander 49’, Mike Sherry 71’