Connacht 21–24 Scarlets

Cafodd y Scarlets fuddugoliaeth dda yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn wrth drechu Connacht ar Faes Chwarae Galway.

Sgoriodd y Scarlets dri chais a dal eu gafael ar fuddugoliaeth fain er i dri chwaraewr gael ei anfon i’r gell gosb.

Llwyddodd Craig Ronaldson gyda dwy gic gosb gynnar i roi mantais i’r tîm cartref cyn i Aled Thomas haneru’r fantais honno gyda phwyntiau cyntaf y Scarlets.

Anfonwyd y prop, Jacobie Adriaanse, i’r gell gosb wedi hynny a manteisiodd Connacht ar ei absenoldeb gyda thri phwynt arall.

Y Scarlets, serch hynny, oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i gais yr asgellwr o Seland Newydd, Frazier Climo, a throsiad Thomas, 9-10 wedi deugain munud.

Ymestynnodd y Scarlets eu mantais ar ddechrau’r ail hanner gyda cheisiau’r bachwr, Kirby Myhill, a’r mewnwr, Gareth Davies ynghyd â dau drosiad arall gan Thomas.

Roedd Connacht yn ôl yn y gêm toc cyn yr awr yn dilyn cais yr asgellwr, Matt Healy, a throsiad Ronaldson, ac yna, anfonwyd Aaron Shingler i’r gell gallio am ddeg munud.

Tra yr oedd yno, fe gaeodd y Gwyddelod y bwlch eto gyda chais yr eilydd fachwr, Jason Harris-Wright, ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i’r Cymry ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets i’r chweched safle yn nhabl y Pro12.

.

Connacht

Ceisiau: Matt Healy 57’, Jason Harris-Wright 66’

Trosiad: Craig Ronaldson 57’

Ciciau Cosb: Craig Ronaldson 4’, 10’, 35’

.

Scarlets

Ceisiau: Frazier Climo 39’, Kirby Myhill 48’, Gareth Davies 53’

Trosiadau: Aled Thomas 39’, 48’, 53’

Cic Gosb: Aled Thomas 21’

Cardiau Melyn: JacobieAdriaanse 28’, Aaron Shingler 66’, Gareth Owen 80’