Caerfyrddin 0–1 Airbus

Airbus aeth â hi yn y frwydr rhwng ail a thrydydd yn Uwch Gynghrair Cymru o flaen camerâu Sgorio ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd chwaraewr canol cae Caerfyrddin, Paul Fowler, gôl i’w rwyd ei hun yn y ddau funud cyntaf ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r tîm o’r gogledd ddwyrain ymestyn y bwlch rhwng y ddau dîm yn y tabl i saith pwynt.

Y Gêm

Ychydig dros funud oedd ar y cloc pan wyrodd cic rydd seren y gêm, Tom Field, oddi ar ben Fowler i gefn ei rwyd ei hun.

Cafodd Airbus ambell gyfle i ddyblu’r fantais yn y chwarter awr cyntaf hefyd ond ergydiodd Steve Jones heibio’r postyn a gwnaeth Steve Cann yn dda i arbed cic rydd arall gan Field.

Caerfyrddin a gafodd y gorau o’r gêm wedi hynny, yn enwedig yn yr ail hanner.

Treuliodd Airbus ran helaeth o’r ail gyfnod yn  amddiffyn yn eu cwrt cosbi eu hunain ond fe gadwodd yr ymwelwyr eu gafael ar y llechen lân.

Daeth cyfleoedd gorau Caerfyrddin i Fowler a Christian Doidge ond saethodd Fowler yn bell dros y trawst a pheniodd Doidge gyfle da yn erbyn y postyn.

Mae’r canlyniad yn ymestyn mantais Airbus yn yr ail safle i saith pwynt ond mae Caerfyrddin yn aros yn drydydd yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

Roedd ychydig o ddrwgdeimlad rhwng y ddau reolwr ar ddiwedd y gêm, ond hyd yn oed os nad yw Andy Preece a Mark Aizlewood yn ffrindiau pennaf roedd y ddau yn hapus iawn â pherfformiad eu tim.

Yr Ymateb

Rheolwr Airbus, Andy Preece:

“Fe ddangosodd yr hogia’ galon heddiw. Un ar ddeg chwaraewr [profiadol] oedd gennym yn ffit ac ar gael i ni heddiw, fe ddaeth hogyn ifanc iawn i’r cae i ni [Aaron Hassall], dim ond un ar bymtheg ydi o ac roedd o’n wych.”

“Rydyn ni eisiau gorffen yn ail, does yna ddim dwywaith am hynny ac fe ddangosom ni hynny heno.”

Rheolwr Caerfyrddin, Mark Aizlewood:

“Roedd yn berfformiad arbennig iawn gan y tîm. Fe wnaethom ni ildio gôl gynnar ond ar ôl hynny fe wnaethom ni reoli’r meddiant. Roedd safon y ffitrwydd yn arbennig iawn, yr ysbryd yn arbennig iawn ac rwyf yn falch iawn o’r chwaraewyr a’r perfformiad.”

“Cyn y gêm roeddwn i’n disgwyl colli yn erbyn Airbus, dywedais i hynny ond wedi dweud hynny roedd y perfformiad yn arbennig iawn ac rwyf yn hapus iawn.”

.

Caerfyrddin

Tîm: Cann, Cummings, K. Thomas, Collins (Jenkins 56’), Belle, Evans, Bassett (C. Thomas 70’), Fowler, Doidge, L. Thomas (Follows 77’), McCreesh

Cardiau Melyn: McCreesh 11’, Evans 12’, Bassett 34’

.

Airbus

Tîm: Coates, Short, Pearson, Kearney, Field, Rule, Budrys, Jones (Hassell 70’), Wade, Roddy, Hart

Gôl: Fowler [g.e.h.] 2’

Cerdyn Melyn: Wade 83’

.

Torf: 241