Wrecsam 2–0 Forest Green Rovers

Sgoriodd y chwaraewr reolwr, Andy Morrell, wrth i Wrecsam drechu Forest Green Rovers yn Uwch Gynghrair Skrill ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Morrell ei dîm ar y blaen ar ôl dod i’r cae fel eilydd cynnar cyn i Johnny Hunt ddyblu’r fantais cyn yr egwyl i sicrhau buddugoliaeth dda i’r Dreigiau.

Nid yw rheolwr 39 mlwydd oed Wrecsam wedi chwarae cymaint â hynny’r tymor hwn ond pan dderbyniodd Bret Ormerod anaf wedi deunaw munud o’r gêm hon fe dynnodd Morrell ei dracwisg.

Creodd argraff yn syth a rhoddodd ei dîm ar y blaen wedi hanner awr gyda foli wych o groesiad Robert Ogleby.

Rhoddodd ergyd droed chwith Hunt chwe munud yn ddiweddarach Wrecsam ym mhellach ar y blaen ac roeddynt yn llawn haeddu eu mantais ar yr egwyl.

Gwnaethpwyd pethau’n haws iddynt wedi’r egwyl wrth i Jamie Turley orfod gadael y cae i Forest Green ar ôl derbyn dau gerdyn melyn mewn dau funud.

Ac er na wnaeth y Dreigiau ychwanegu at eu mantais fe wnaethant ddal eu gafael ar y tri phwynt yn gyfforddus.

Mae’r fuddugoliaeth yn eu codi i’r trydydd safle ar ddeg yn nhabl y Gyngres.

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Artell, Wright, Ashton, Carrington, Harris, Hunt, Clarke, Keates, Ogleby (Cieslewicz 72′), Ormerod (Morrell 18′ (Creighton 91))

Goliau: Morrell 30’, Hunt 36’

.

Forest Green Rovers

Tîm: Russell, Green, Bennett, Turley, Hodgkiss (Oshodi 81′), Asafu-Adjaye, Klukowski (Styche 81′), Kelly, Bangura (Taylor 53′), Norwood, Wright

Cardiau Melyn: Turley 55’, Bennett 75’

Cerdyn Coch: Turley 57’

.

Torf: 3,083