Cheltenham 0–0 Casnewydd
Di sgôr oedd hi rhwng Cheltenham a Chasnewydd yn Whaddon Road brynhawn Sadwrn ond mae tîm Justin Edinburgh yn aros yn safleoedd ail gyfle’r Ail Adran.
Daeth cyfle gorau Casnewydd cyn yr egwyl ond tarodd cynnig Conor Washington yn erbyn y postyn.
Cheltenham oedd yn edrych yn fwyaf tebygol o’i hennill hi yn yr ail hanner a chafodd Jamie Cureton ddau gyfle da yn y munudau olaf. Cafodd y cyntaf ei arbed gan Lenny Pidgeley yn y gôl i Gasnewydd ac anelodd yr ail heibio’r postyn.
Mae’r gêm ddi sgôr yn cadw Casnewydd yn y chweched safle ac roedd y rheolwr, Justin Edinburgh, yn ddyn cymharol fodlon wrth siarad â Radio Wales yn dilyn y gêm:
“Dyna bedair llechen lân yn olynol nawr, ac os allwn wneud hynny oddi cartref a chynnal ein rhediad cartref da hefyd fyddwn ni ddim yn bell ohoni ar ddiwedd y tymor.”
.
Cheltenham
Tîm: Brown, Jombati, Braham-Barrett, Noble, Brown, Elliott, Taylor, Richards (McGlashan 65′), Harrison (Gornell 65′), Cureton, Deering (Penn 72′)
Cardiau Melyn: Elliott 14’, Noble 85’
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Jackson, Willmott, Oshilaja, Yakubu, Worley, Naylor, Chapman (Minshull 78′), Washington, Crow, Jolley (Barker 84′)
Cerdyn Melyn: Chapman 52’
.
Torf: 3,501