Fulham 1–2 Abertawe
Dychwelodd Abertawe o Craven Cottage gyda thri phwynt brynhawn Sadwrn wedi i gôl Jonjo Shelvey ddeg munud o’r diwedd sicrhau buddugoliaeth i’r Cymry.
Aeth Abertawe ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner pan rwydodd Aaron Hughes i’w gôl ei hun ond unionodd Scott Parker bethau i’r tîm cartref yn fuan wedyn. Ond roedd gôl hwyr Shelvey yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i dîm Michael Laudrup.
Methodd Darren Bent gyfle da i roi’r tîm cartref ar y blaen pan darodd foli yn erbyn y postyn, a bu rhaid aros tan yr eiliadau olaf am gyfle gorau Abertawe o’r hanner cyntaf pan lwyddodd Maarten Stekelenburg yn y gôl i Fulham i atal cynnig Nathan Dyer.
Fe aeth yr Elyrch ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ond un o chwaraewyr Fulham roddodd y bêl yng nghefn y rhwyd – Hughes y gŵr anffodus yn gwyro’r bêl heibio i’w golwr ei hun.
Roedd Fulham yn gyfartal yn fuan wedyn diolch i ergyd dda Scott Parker o ddeunaw llath.
Ond Abertawe, a’r eilydd, Shelvey, a gafodd y gair olaf gyda gôl lawn cystal. Creodd y chwaraewr canol cae le iddo’i hun ar ochr y cwrt cosbi cyn codi ergyd dda i’r gornel uchaf i ennill y gêm i’w dîm.
Mae’r canlyniad yn codi Abertawe i hanner uchaf y tabl. Maent bellach yn ddegfed gyda phymtheg pwynt.
.
Fulham
Tîm: Stekelenburg, Zverotic, Richardson, Boateng (Sidwell 60′), Hughes, Amorebieta, Kasami, Parker (Taarabt 86′), Bent, Berbatov, Ruiz (Kacaniklic 77′)
Gôl: Parker 64’
Cardiau Melyn: Boateng 19’, Kasami 30’, Hughes 62’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Rangel, Davies, Cañas, Chico, Williams, Dyer (Shelvey 59′), De Guzmán, Bony, Pozuelo (Alvaro 93′), Lamah (Tiendalli 86′)
Goliau: Hughes [g.e.h.] 56’, Shelvey 80’
Cerdyn Melyn: Davies 72’
.
Torf: 25,258