Gweilch 30–20 Zebre

Sgoriodd Matthew Morgan ugain pwynt wrth i’r Gweilch drechu Zebre ar y Liberty yn y RaboDirect Pro12 brynhawn Sadwrn.

Roedd ceisiau Tyler Ardron a Duncan Jones yn gynnar yn yr ail hanner ynghyd â chicio cywir Morgan y maswr yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth mewn gêm agos.

Rhoddodd Morgan fantais gynnar i’r Gweilch gyda dwy gic gosb, cyn i’r blaenasgellwr, Filippo Cristiano, sgorio’r cais agoriadol i roi Zebre ar y blaen.

Ymatebodd Morgan gyda thair cic gosb arall cyn yr egwyl ac er i Paolo Buso a Gonzalo Garcia lwyddo gydag un yr un i Zebre hefyd, y tîm cartref oedd ar y blaen ar yr egwyl o 15-13.

Sicrhaodd y Gweilch y fuddugoliaeth gyda dau gais yn neg munud cyntaf yr ail hanner.

Croesodd y blaenasgellwr, Tyler Ardron, i ddechrau yn dilyn pas hir dda gan y mewnwr, Tito Tebaldi, ac ychwanegodd y prop profiadol, Duncan Jones, yr ail ar ôl gwaith da Ben John trwy’r canol.

Rhoddodd cais yr wythwr, Samuela Vunisa, lygedyn o obaith i’r Eidalwyr toc wedi’r awr; ond diflannodd y gobaith hwnnw yr un mor sydyn pan welodd yr un chwaraewr gerdyn melyn.

Ychwanegodd Morgan un gic gosb arall bum munud o’r diwedd i goroni perfformiad unigol da a sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i frig tabl y Pro12 am y tro, cyn i Munster herio’r Gleision ar Barc yr Arfau yn hwyrach nos Sadwrn.

.

Gweilch

Ceisiau: Tyler Ardron 45’, Duncan Jones 48’

Trosiad: Matthew Morgan 49’

Ciciau Cosb: Matthew Morgan 2’, 11’, 25’, 39’, 40’, 75’

.

Zebre

Ceisiau: Filippo Cristiano 13’, Samuela Vunisa 62’

Trosiadau: Paolo Buso 13’, Gonzalo Garcia 62’

Ciciau Cosb: Paolo Buso 28’, Gonzalo Garcia 32’

Cerdyn Melyn: Samuela Vunisa 68’