Stuart Manley yn dathlu’i lwyddiant gyda Hideto Tanihara o Japan ar drydydd diwrnod cwpan y byd golff ym Melbourne heddiw (llun: Michael Dodge/Getty/Gwifren PA).
Mae’r Cymro Stuart Manley yn dathlu ar ôl llwyddo i gael twll mewn un yng nghwpan y byd golff ym Melbourne, Awstralia, heddiw.
Ar drydydd diwrnod y gystadleuaeth cyflawnodd Manley ei gamp ar drydydd twll Cwrs Golff Brenhinol Melbourne.
Eto i gyd, roedd rhywfaint o siom yn gymysg â’r dathlu – gan ei fod yn credu y byddai’r twll mewn un yn ennill Mercedes iddo.
Yn anffodus iddo, dim ond rhai sy’n sgorio twll mewn un yfory fydd yn ennill gwobr o’r fath. Mae’n bosibl fod ei siom wedi effeithio ar ei berfformiad yn y twll nesaf – gan iddo gymryd 11 o ergydion o gymharu â’r safon o 4.
Mae Awstralia’n ymddangos fel ffefrynnau i ennill cwpan y byd gyda mantais o 11 ar hyn o bryd yn y gystadleuaeth i dimau, a’r Awstraliad Jason Day sydd ar y blaen hefyd yn y gystadleuaeth i unigolion.