Cymru 17–7 Tonga

Roedd y gêm rhwng Cymru a Tonga yn Stadiwm y Mileniwm nos Wener mor ddi fflach â chrys llwyd newydd Cymru.

Daeth unig gyffro’r gêm yn yr hanner cyntaf pan sgoriodd y ddau ganolwr, Owain Williams ac Ashley Beck, geisiau da i Gymru. Roedd yr ail hanner yn ddi gyffro ac yn gwbl ddi sgôr ond roedd y tîm cartref wedi gwneud digon i sicrhau buddugoliaeth cyn yr egwyl.

Hanner Cyntaf

Ciciodd Leigh Halfpenny’r pwyntiau cyntaf yn dilyn chwarter awr cyntaf di sgôr, a buan iawn wedyn y daeth y cais agoriadol i Williams.

Rhedodd canolwr ifanc y Gleision yr holl ffordd o’r llinell hanner yn dilyn gwaith da James Hook a Halfpenny’n gynharach yn y symudiad. 10-0 yn dilyn trosiad Halfpenny.

Cafwyd ail gais chwarter awr cyn yr egwyl ac roedd hwnnw’n un da iawn hefyd. Enillodd George North dir da cyn i Beck orffen y symudiad yn daclus yn y gornel. Llwyddodd Halfpenny gyda’r trosiad eto i ymestyn mantais Cymru i 17 pwynt.

Ond roedd Tonga’n ôl ynddi erbyn hanner amser diolch i gais Will Helu a throsiad Latuime Fosita. Rhedodd yr asgellwr, Helu,  ar ongl dda i dderbyn dadlwythiad y blaenasgellwr, Viliami Ma’afu, cyn croesi o dan y pyst. 17-7 ar yr egwyl.

Ail Hanner

Cafwyd llawer gormod o oedi yn yr ail hanner gyda’r sgrymiau a’r eilyddio cyson yn mygu unrhyw batrwm rhag datblygu.

Serch hynny, roedd y ddau asgellwr, Hallam Amos a North, yn meddwl eu bod wedi sgorio ceisiau ond cafodd y ddau eu hatal gan benderfyniadau cywir y dyfarnwr fideo, Carlo Demasco.

Daeth ‘seren y gêm’, Luke Charteris yn agos at dirio hefyd ond collodd y clo ei afael ar y bêl ar yr eiliad dyngedfennol.

Buddugoliaeth felly i ail dîm Cymru fwy neu lai ond bydd rhaid iddynt fod yn dipyn gwell os am drechu Awstralia yn y gêm olaf yr wythnos nesaf.

.

Cymru

Ceisiau: Owen Williams 16’, Ashley Beck 25’,

Trosiadau: Leigh Halfpenny 17’, 26’

Cic Gosb: Leigh Halfpenny 14’

.

Tonga

Cais: Will Helu 34’

Trosiad: Latiume Fosita 35’