Glasgow 8–23 Dreigiau Casnewydd Gwent

Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth dda yn erbyn Glasgow yn Stadiwm Scotstoun nos Wener er iddynt orfod chwarae hanner awr o’r gêm RaboDirect Pro12 gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn tri cherdyn melyn.

Jason Tovey oedd seren y sioe i’r Cymry heb os, gyda’r maswr yn sgorio deunaw pwynt mewn buddugoliaeth o dri ar hugain i wyth.

Hanner Cyntaf

Roedd llai na munud wedi mynd pan dderbyniodd canolwr y Dreigiau, Pat Leach, gerdyn melyn a bu rhaid i’r ymwelwyr chwarae gydag un dyn yn llai am ddeg munud.

Manteisiodd Glasgow yn syth gyda chais i’r asgellwr, Nikola Matawalu, ond roedd y Cymry ar y blaen cyn i Leach ddychwelyd diolch i ddwy gic gosb o droed Tovey.

Bu rhaid aros tan saith munud cyn yr hanner am y sgôr nesaf a Tovey oedd yn ei chanol hi unwaith eto. Croesodd y maswr am gais cyntaf ei dîm cyn ychwanegu’r trosiad i roi wyth pwynt rhwng y timau ar yr egwyl

Ail Hanner

Caeodd Henry Pyrgos y bwlch hwnnw i bum pwynt yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda chic gosb cyn i’r Dreigiau dderbyn eu hail gerdyn melyn. Yr asgellwr, Matthew Pewtner, oedd y gŵr euog y tro hwn a’r ymwelwyr yn gorfod ymdopi â phedwar dyn ar ddeg am yr eildro.

Ond unwaith eto, y Dreigiau a gafodd y gorau o’r cyfnod hwnnw, gan fynd ym mhellach ar y blaen gyda chais yr asgellwr, Will Harries a throsiad Tovey. 8-20 ar yr awr.

Cyfle’r wythwr, Netani Talei, i dreulio deg munud yn y gell gallio oedd hi wedi hynny wrth i drydydd chwaraewr y Dreigiau gael ei gosbi gyda cherdyn melyn.

Methodd Glasgow serch hynny â chau’r bwlch, a choronodd Tovey berfformiad unigol da gyda gôl adlam yn y munudau olaf i wneud y fuddugoliaeth yn berffaith ddiogel.

Mae’r canlyniad yn codi’r Dreigiau i’r chweched safle yn nhabl y Pro12.

.

Glasgow

Cais: Nikola Matawalu 2’

Cic Gosb: Henry Pyrgos 44’

.

Dreigiau

Ceisiau: Jason Tovey 33’, Will Harries 57’

Trosiadau: Jason Tovey 34’, 58’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 8’, 11’

Gôl Adlam: Jason Tovey 76’

Cardiau Melyn: Pat Leach 1’, Matthew Pewtner 52’, Netani Talei 59’