Heno fydd canfed gêm Warren Gatland fel rheolwr ar dîm Cymru a’r Llewod.  Fel rheolwr mae Gatland wedi cipio’r Gamp Lawn yn 2008 ac yn 2012, ac wedi arwain y Llewod i fuddugoliaeth yn Awstralia yr ystod yr haf.

‘‘Mae’n braf  cydweithio gyda Warren, mai wedi bod yn hynod o lwyddiannus fel rheolwr.  Mae’n berson sydd yn edrych i’r dyfodol yn hytrach nag un sy’n edrych yn ôl i’r gorffennol.  Un peth mae Warren yn ei wneud yw ei bod yn herio chi fel chwaraewr neu yn rheolwr’’ meddai cyn mewnwr Cymru, Rob Howley.

‘‘Mae’n garreg filltir arbennig ond nid yw’n rhywbeth yr wyf wedi meddwl am lawer ohono nes i rywun sôn wrthyf yn ddiweddar,’’ meddai Gatland.

Allweddol

Mae Warren Gatland wedi bod yn allweddol i lwyddiant Cymru yn ystod y degawd diwethaf.  Dim ond cyn rheolwr Cymru a Seland Newydd, Graham Henry sydd wedi rheoli mwy o gemau (140 o gemau).