Ar ôl rhoi nifer o gyfleoedd i’r chwaraewyr ifanc yn ystod y pythefnos diwethaf, fe fydd nifer o chwaraewyr profiadol y rhanbarth yn dychwelyd i wynebu Connacht nos yfory.

Gyda deg o chwaraewyr y Scarlets ar ddyletswydd ryngwladol, mae rheolwr y Scarlets yn obeithiol y bydd ei chwaraewyr profiadol yn gallu ateb her Connacht.

Prop y Scarlets, Phil John fydd yn arwain y Scarlets oherwydd absenoldeb y Capten Rob McCusker sydd yn dioddef o anaf i’w goes.

‘‘Mae colli chwaraewyr ychwanegol i ddyletwsyddau rhyngwladol yn effeithio’r tîm, ond mae’n rhaid i ni ddelio ag hynny.  Mae’n braf gweld nifer o chwaraewyr ifanc yn cael ei alw i ymuno â garfan Cymru, ac yn beth gadarnhaol i’r dyfodol,’’ meddai Simon Easterby, rheolwr y Scarlets.

‘‘Mae Connacht yn dîm da sydd heb golli nifer o’i chwaraewyr i ddyletswyddau ryngwladol, felly does yna ddim nifer o newidiadau ymysg y chwaraewyr,’’ ychwanegodd Easterby.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Gareth Owen, Frazier Climo, Gareth Maule, Adam Warren, Nic Reynolds, Aled Thomas a Gareth Davies.

Blaenwyr – Phil John (Capten), Kirby Myhill, Jacobie Adriaanse, Jake Ball, George Earle, Aaron Shingler, Josh Turnbull a Sione Timani.

Eilyddion – Darran Harris, Shaun Hopkins, Ian Jones, Jo Synman, Dan Thomas, Aled Davies, Josh Lewis a Kristian Phillips.