Ben Davies ar y dde
Mae cefnwr chwith Abertawe Ben Davies wedi mynnu bod digon o gemau i gael gan Abertawe i yntau a Neil Taylor gael chwarae digon yn ystod y tymor.

Roedd Davies yn siarad yn y gynhadledd i’r wasg cyn gêm Abertawe yn erbyn Fulham ar y penwythnos, gan ddweud ei bod hi fyny iddo ef i brofi ei fod yn haeddu ei le.

“Dyw [y gystadleuaeth gyda Taylor] ddim yn effeithio’r ffordd fi’n paratoi ar gyfer y gêm,” meddai Davies. “Dwi’n gwneud fy ngorau ym mhob gêm ac mae e lan i’r rheolwr wedyn i ddewis y tîm.

“Mae’r ddau ohonom ni’n cystadlu am yr un safle ond mae’n dod lawr i bwy sydd yn chwarae orau. Flwyddyn yma bydd digon o gemau, ac fe fydd angen i’r ddau ohonom ni orffwys ar adegau.”

Mae Davies wedi chwarae mewn deuddeg gêm i’r Elyrch y tymor hwn, o’i gymharu gyda dim ond pump i Taylor – ond Taylor gafodd ei ddewis i ddechrau gan Chris Coleman yn gêm gyfeillgar diweddar Cymru yn erbyn Awstria.

Herio Fulham

Bydd Abertawe yn teithio i Lundain i herio Fulham yfory, gyda’r Elyrch yn gobeithio bownsio nôl o’u hwythnos siomedig cyn yr egwyl ryngwladol, pan wnaethon nhw golli i Gaerdydd cyn ildio goliau hwyr am gemau cyfartal yn erbyn Kuban Krasnodar a Stoke.

Ond fe allen nhw fod yn ffyddiog o gael canlyniad y penwythnos yma ar ôl canlyniadau da yn erbyn Fulham yn y gorffennol, yn enwedig o gofio bod eu gwrthwynebwyr wedi colli 4-0 i Lerpwl yn eu gêm ddiwethaf nhw, ac yn gorwedd yn 18fed yn y tabl.

Mae Abertawe yn 13fed yn y tabl ar hyn o bryd ar ddeuddeg pwynt – ond dim ond dau yn fwy na’u gwrthwynebwyr brynhawn Sadwrn.

Laudrup yn ffyddiog

Dywedodd rheolwr Abertawe Michael Laudrup ei fod yn ffyddiog y gall y garfan ddelio gyda’r gemau dros gyfnod prysur y Nadolig dros y mis nesaf, gyda deuddeg gêm o fewn 43 diwrnod ar y gweill.

“Mae’n rhaid i ni fynd a’n perfformiad da o ail hanner y gêm yn erbyn Stoke i mewn i hon,” meddai Laudrup. “Roedden ni mor rhwystredig ar ôl y gêm honno oherwydd ein bod ni’n haeddu ennill honno.”

Cadarnhaodd Laudrup y byddai Michu, Pablo Hernandez a Garry Monk i gyd yn absennol gydag anafiadau, ond fod angen edrych ar ôl y chwaraewyr yn ystod y cyfnod yma.

“Bydd Monk allan am chwe wythnos,” meddai Laudrup. “Roedden ni’n gwybod y byddai Michu angen ychydig mwy o amser, a’r un peth am Pablo. Ond gan fod gennym ni cymaint o gemau, ‘dy ni ddim eisiau eu galw nôl rhy gynnar. Bydd pawb yn chwarae dros y chwe wythnos nesaf.”

Angen cynyddu’r safon

Dywedodd Davies hefyd nad oedd yn poeni fod y cyfnod prysur o gemau cyn y Nadolig, gan ddechrau gyda’u trip i Fulham ac yna naw gêm ym mis Rhagfyr, yn mynd i fod yn ormod o broblem.

“Dy’ ni wedi ennill yno am ddau dymor yn olynol nawr, ac fe awn ni mewn i’r gêm yn weddol hyderus o dri phwynt,” meddai.

“Maen nhw wedi dangos eu gallu ar adegau’r tymor yma – ac yn fy marn i fe fydden nhw’n dîm Uwch Gynghrair eto’r flwyddyn nesaf.

“Mae gennym ni lawer o gemau ar y gweill, yn enwedig dros y mis nesaf. Dy’ ni’n gwybod fel chwaraewyr nad ydyn ni wedi cyrraedd ein gorau eto’r flwyddyn yma, ac mae e lan i ni i wneud yn iawn am hynny.

“Fel chwaraewyr mae gennym ni ddisgwyliadau, ond wnawn ni ddim gadael i hynny fod yn faich arnom ni.”