Nos yfory bydd y Gleision yn herio Munster ar Barc yr Arfau yng nghystadleuaeth y RaboDirect Pro12.
Pump newid sydd i dîm y Gleision a gurodd y Gweilch yng Nghwpan yr LV yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys rheng ôl gwbl newydd sef Andries Pretorius a Josh Navidi yn flaen asgellwyr a Robin Copeland fydd wrth gefn y sgrym yn safle’r wythwr.
Lewis Jones fydd yn safle’r mewnwr a’r maswr Simon Humberstone fydd yn gwneud ei ddechreuad cyntaf i’r Gleision. Mae’r rhanbarth yn parhau i fod heb nifer o’u chwaraewyr oherwydd anafiadau a dyletswyddau rhyngwladol. Ac mae’r clo Bradley Davies a’r canolwr Cory Allen wedi eu hychwanegu ar y rhestr hir o anafiadau.
‘‘Mae ganddon ni dros ugain o chwaraewyr ar goll ohewrydd anafiadau neu ar ddyletswydd rhyngwladol, ond y mae’n gyfle arbennig i chwaraewyr eraill creu argraff ac i hawlio eu safleoedd,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision.
Tîm y Gleision
Olwyr – Tom Williams, Richard Smith, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Chris Czekaj, Simon Humberstone a Lewis Jones.
Blaenwyr – Sam Hobbs (Capten), Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Macauley Cook, James Down, Andries Pretorius, Josh Navidi a Robin Copeland.
Eilyddion – Rhys Williams, Thomas Davies, Benoit Bourrust, Thomas Young, Rory Watts-Jones, Luke Hamilton, Tomos Williams a Gareth Davies.