Gyda dwy gêm wedi bod eisoes yng nghyfres yr Hydref, a dwy arall i fynd, mae Pod Rygbi Golwg360 yn edrych nôl ar lwyddiant Cymru yn erbyn yr Ariannin ddydd Sadwrn diwethaf yn ogystal ac edrych ymlaen i’r her yn erbyn Tonga heno.
Yr wythnos yma ein gohebydd chwaraeon, Rhys Jones, a dau o flogwyr rygbi Golwg360, Owain Gwynedd ac Illtud Dafydd, sydd yn cloriannu’r perfformiad yr wythnos diwethaf ac yn trafod dewisiadau Gatland ar gyfer y gêm nesaf.
Bydd y tri’n trafod cap cyntaf i asgellwr y Dreigiau Hallam Amos, cyfle James Hook fel maswr, yr anafiadau i’r canolwyr a chyfle partneriaeth Ashley Beck ac Owen Williams i serennu.
Ac fe fyddwn nhw’n gobeithio gwneud yn well wrth ddarogan y sgôr yr wythnos hon, ar ôl i bob un ohonyn nhw ragweld gêm agos y tro diwethaf!