Y clo Robert Sidoli fydd yn arwain y Dreigiau yn yr Alban heno wrth iddyn nhw herio’r Glasgow Warriors yn Stadiwm Scotstoun.
Owen Evans, Sam Parry a Francisco Chaparro fydd yn y rheng flaen. Nid oes unrhyw newid i’r ail reng a gurodd y London Wasps sef y Capten Robert Sidoli a Cory Hill. Y blaen asgellwyr fydd Lewis Evans, gyda Nic Cudd a Netani Taeli wrth gefn y sgrym yn ffurfio’r rheng ôl.
Mi fydd Dan Evans yn cychwyn am y nawfed tro i’r Dreigiau y tymor yma yn safle’r cefnwr. Will Harries a Matthew Pewtner fydd yr asgellwyr. Yn rheoli’r canol cae bydd Ross Wardle a Pat Leach sydd yn dychwelyd ar ôl anafu ei ben-elin. Jason Tovey fydd wrth y llyw yn safle’r maswr a Richie Rees yn safle’r mewnwr.
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Daniel Evans, Will Harries, Pat Leach, Ross Wardle, Matthew Pewtner, Jason Tovey a Richie Rees.
Blaenwyr – Owen Evans, Sam Parry, Francisco Chaparro, Cory Hill, Rob Sidoli (Capten), Lewis Evans, Nic Cudd a Netani Talei.
Eilyddion – Elliot Dee, Aaron Coundley, Dan Way, Matthew Screech, Ieuan Jones, Wayne Evans, Steffan Jones a Ashley Smith.