Dreigiau Casnewydd Gwent 20–8 Wasps
Dechreuodd dydd Sadwrn yn dda i rygbi Cymru gyda buddugoliaeth i’r Dreigiau yn erbyn Wasps ar Rodney Parade yn y Cwpan LV.
Matthew Pewther ac Ashton Hewitt sgoriodd geisiau’r tîm cartref mewn buddugoliaeth dda yn erbyn tîm Dai Young.
Cyfnewidiodd Rhys Jones a Joe Carlisle giciau cosb yn y deg munud cyntaf cyn i Jones ychwanegu ail hanner ffordd trwy’r hanner i roi’r Dreigiau ar y blaen.
Yna, daeth cais cyntaf y gêm i flaenasgellwr Wasps, Matt Everard. Ond tri munud yn unig a barodd y fantais cyn i’r asgellwr, Pewther, daro’n ôl i’r Dreigiau. 13-8 ar yr egwyl yn dilyn trosiad Jones.
Bu rhaid i’r ymwelwyr chwarae deg munud gyda phedwar dyn ar ddeg tuag at ddiwedd y gêm yn dilyn cerdyn melyn i Simon McIntyre, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe sicrhaodd y Dreigiau’r fuddugoliaeth gyda chais Hewitt a throsiad yr eilydd, Dorian Jones.
Dreigiau
Ceisiau: Matthew Pewther 32’, Ashton Hewitt 68’
Trosiadau: Rhys Jones 32’, Dorian Jones 68’
Ciciau Cosb: Rhys Jones 3’, 22’
.
Wasps
Cais: Matt Everard 29’
Cic Gosb: Joe Carlisle 6’
Cerdyn Melyn: Simon McIntyre 64’