Dreigiau Casnewydd Gwent 19–23 Leinster

Colli o bedwar pwynt fu hanes y Dreigiau yn erbyn Leinster ar Rodney Parade nos Wener yn y RaboDirect Pro12.

Gyda dau ar bymtheg o chwaraewyr Leinster yng ngharfan Iwerddon roedd hwn yn gyfle da i’r tîm cartref, ond cafodd y Cymry eu cosbi’n llym am lu o gamgymeriadau ac fe enillodd Leinster y gêm i bob pwrpas tra yr oedd clo’r Dreigiau, Adam Jones, yn y gell gosb.

Hanner Cyntaf

Rheolodd Leinster yr hanner awr agoriadol, ond er i Jimmy Gopperth eu cicio ar y blaen, cyfartal oedd hi ddeg munud cyn yr egwyl diolch i gic gosb hir Tom Prydie.

Yna, yn erbyn llif y chwarae fe aeth y Cymry ar y blaen gyda chwip o gais. Cymerodd Richie Rees gic gosb gyflym yn ei hanner ei hun a chafwyd dwylo da gan Pat Leach, Hallam Amos a Prydie cyn i Ross Wardle groesi yn y gornel. Llwyddodd Tovey gyda’r trosiad anodd, 10-3 i’r Dreigiau.

Caeodd Gopperth y bwlch gyda chic olaf yr hanner, ond roedd sylfaen da i’r tîm cartref gyda deugain munud i fynd.

Ail Hanner

Fe ddechreuodd y Dreigiau’r ail gyfnod yn dda hefyd gyda Tovey yn adfer y saith pwynt o fantais gyda chic gosb gynnar.

Atebodd Gopperth gyda’i drydedd yntau cyn i’r gêm newid toc cyn yr awr. Anfonwyd Adam Jones i’r gell gosb am daclo’r neidiwr yn y lein ac fe sgoriodd y Gwyddelod bedwar pwynt ar ddeg cyn iddo ddychwelyd.

Croesodd y bachwr, Aaron Dundon, i ddechrau cyn i fylchiad Zane Kirchner roi ail ar blât i’r canolwr, Noel Reid. Ychwanegodd Gopperth y ddau drosiad.

Ond wnaeth y Dreigiau ddim rhoi’r ffidl yn y to ac yn dilyn dwy gic gosb gan Tovey o boptu cerdyn melyn i Jack O’Connell, roedd y tîm cartref o fewn pedwar pwynt gyda saith munud i fynd ac yn chwarae yn erbyn un dyn yn llai.

Ond er gwaethaf yr holl bwyso ddaeth y cais ddim, ac roedd hi’n addas rhywsut mai camgymeriad arall gan y Dreigiau a ddaeth â’r gêm i ben wrth iddynt golli rheolaeth ar y bêl o fewn cyrraedd i’r llinell gais yn yr eiliadau olaf.

Mae’r Dreigiau yn aros yn chweched safle tabl y Pro12 am y tro a Leinster yn codi i’r trydydd safle.

.

Dreigiau

Cais: Ross Wardle 31’

Trosiad: Jason Tovey 32’,

Ciciau Cosb: Tom Prydie 15’, Jason Tovey 43’, 71’, 73’

Cerdyn Melyn: Adam Jones 57’

.

Leinster

Ceisiau: Aaron Dundon 58’, Noel Reid 62’

Trosiadau: Jimmy Gopperth 58’, 63’

Ciciau Cosb: Jimmy Gopperth 13’, 40’, 50’

Cerdyn Melyn: Jack O’Connell 72’