Ulster 39-21 Gleision
Doedd dim modd i’r Gleision ailadrodd eu buddugoliaeth arwrol yn erbyn Toulon wythnos ddiwethaf, wrth i Ulster brofi’n rhy gryf i dîm Phil Davies.
Ar ôl ildio dau gais i’r Gwyddelod brwydrodd y Gleision yn ddewr gan ddod nôl i sicrhau sgôr barchus 16-11 ar yr hanner diolch i gais Robin Copeland.
Ond, sgoriodd y tîm cartref dri chais yn yr ail hanner i sicrhau’r fuddugoliaeth, er i Richard Smith groesi i wneud y sgôr yn fwy parchus.