Lyn Jones
Heno fe fydd y Gweilch yn croesawu’r Dreigiau i’r Liberty.
Mi fydd Capten y Dreigiau Andrew Coombs yn dychwelyd i ddechrau i’r rhanbarth.
‘‘Ar hyn o bryd, rydym yn eistedd yn y chweched safle. Rydym wedi cael dechreuad arbennig i’r tymor cyn belled ond mae angen i ni parhau a’r ymdrech,’’ meddai Coombs.
Mae rheolwr y Dreigiau Lyn Jones wedi gwneud saith newid i’w dîm a gollodd yn erbyn Caerfaddon y penwythnos diwethaf yn y Cwpan Amlin.
Mi fydd y canolwr Lewis Robling yn dechrau am y tro cyntaf dros y rhanbarth y tymor hwn, ac yn y rheng flaen fe fydd Sam Parry yn dechrau a Hugh Gustafson yn symud i’r fainc. Dim ond un newid sydd i’r rheng-ôl – bydd Jevon Groves yn safle’r blaenasgellwr wrth ochr Lewis Evans a’r wythwr Toby Faletau.
Gweilch
O ran y Gweilch fe fydd y prop rhyngwladol, Adam Jones ar y fainc ac Aaron Jarvis fydd yn dechrau. Wrth i Richard Fussell ddioddef o anaf i’w gefn, Dan Biggar fydd yn safle’r cefnwr a Matthew Morgan yn safle’r maswr.
Ni fydd y clo Ian Evans, y prop Dmitri Arhip, yr wythwr Dan Baker, yr asgellwr Hanno Dirksen, y blaenasgellwr Tom Smith nac ychwaith y mewnwr Rhys Webb yn bresennol ar gae’r Liberty heno oherwydd anafiadau.
‘‘Roeddwn wedi cael siom fel carfan wrth golli’r gemau yn y Cwpan Heineken ond mae’n rhaid i ni parhau i frwydro, mae yna ddigon o allu yn y garfan yma i geisio anghofio am y gemau cynt ac i edrych ymlaen at y gemau nesaf,’’ meddai Steve Tandy, rheolwr y Gweilch.
Mi fydd y gêm yn fyw ar BBC 2 Cymru.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Daniel Biggar, Jeff Hassler, Jonathan Spratt, Andrew Bishop, Eli Walker, Matthew Morgan a Tom Habberfield
Blaenwyr – Ryan Bevington, Richard Hibbard, Aaron Jarvis, Alun Wyn Jones (Capten), James King, Tyler Ardron, Morgan Allen a Justin Tipuric.
Eilyddion – Scott Baldwin, Duncan Jones, Adam Jones, Lloyd Peers, Joe Bearman, Tito Tebaldi, Ben John a Sam Lewis.
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Dan Evans, Tom Prydie, Ross Wardle, Lewis Robling, Hallam Amos, Kris Burton a Richie Rees.
Blaenwyr – Owen Evans, Sam Parry, Dan Way, Matthew Screech, Andrew Coombs (Capten), Jevon Groves, Lewis Evans a Toby Faletau.
Eilyddion – Hugh Gustafson, Nathan Williams, Francisco Chaparro, Adam Jones, Ieuan Jones, Jonathan Evans, Will Harries a Adam Hughes.