Yfory yn Stadiwm y Mileniwm fe fydd seremoni agoriadol Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair yn cael ei gynnal ar y cyd gan Gymru a Lloegr. Yn dilyn y seremoni bydd gêm agoriadol grŵp Cymru a fydd yn herio’r Eidal a gêm agoriadol grŵp Lloegr fydd yn herio Awstralia.
Un o’r nifer a fydd yn bresennol, fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones.
‘‘Rwy’n falch iawn o gael chwarae rhan yn y seremoni agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm – dyma’r unig bryd y bydd pob un o’r 14 o wledydd sy’n cymryd rhan yn uno yn ystod Cwpan y Byd,’’ meddai Prif Weinidog Cymru.
‘‘Bydd gemau hefyd yn digwydd mewn lleoliadau eraill yng Nghymru, gan sicrhau bod manteision y digwyddiadau i’w gweld ledled y wlad. Bydd Cwpan y Byd yn gyfle i ni gydweithio gyda’n cymunedau lleol, a bydd gobeithio yn annog pobl o bob oedran a gallu i chwarae. Mae’n fraint bod yn un o wledydd y twrnament eleni, ac rwy’n hyderus mai dyma fydd Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair gorau erioed,’’ ychwanegodd.