Mae canolwr Cymru wedi dweud bod gwefan trydar yn helpu chwaraewyr rygbi i gywiro camargraffiadau yn y wasg ac amddiffyn eu hunain.

Roedd Jamie Roberts yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar gyfer rhifyn arbennig o raglen fore Sul y cyflwynydd ar Radio Cymru, sydd i’w darlledu ar Dachwedd y trydydd – ar drothwy gêm fawr Cymru yn erbyn De Affrica, ac ychydig cyn penblwydd y canolwr.

Meddai Jamie Roberts am twitter: ‘‘Mae’n ffordd dda o ddweud eich barn. Weithiau rydym yn gweld pethau’n cael eu dyfynnu’n anghywir gan y wasg, ac mae Trydar yn rhoi’r pŵer i’r unigolyn i amddiffyn ei hun.’’