Ffostrasol
Gêm gwpan sydd gan ‘Tîm yr Wythnos’ golwg360 y penwythnos yma, wrth i CPD Ffostrasol wynebu Ail Dîm Bow Street yn ail rownd Cwpan Goffa Dai ‘Dynamo’ Davies.
Mae Ffostrasol yn bumed yn Ail Adran Cynghrair Ceredigion ar hyn o bryd ar ôl naw gêm, ond mae penwythnos yma’n cynnig cyfle iddyn nhw brofi mwy o lwyddiant yn y gwpan.
Cwpan yw hon rhwng timau cynghreiriau Aberystwyth a Cheredigion, ac fe lwyddodd Ffostrasol i gyrraedd y rownd yma diolch i fuddugoliaeth o 2-1 ar ôl amser ychwanegol dros Ail Dîm Aberaeron, sydd adran yn uwch na nhw, fis yn ôl.
Ar y llaw arall, dyw eu gwrthwynebwyr nhw ddydd Sadwrn ddim yn gwneud yn rhy ffôl tymor yma chwaith – maen nhw’n bumed yn Adran Gyntaf Cynghrair Aberystwyth, ac wedi trechu Talybont o’r ail adran 6-5 yn y rownd gyntaf.
Ond mae Ffostrasol ar rediad da ar hyn o bryd, gyda phedair buddugoliaeth yn eu pum gêm ddiwethaf yn y gynghrair a chwpanau, gan gynnwys ennill 2-0 yn erbyn SDUC, tîm prifysgol Llambed, y penwythnos diwethaf.
Y ddau sgoriwr yn y gêm honno oedd Daniel Davies ac Alun Bowen, sydd hefyd yn digwydd bod y ddau brif sgoriwr i Ffostrasol yn y gynghrair y tymor hwn gydag wyth gôl rhyngddyn nhw.
Anodd cymharu safon
Ond yn ôl rheolwr Ffostrasol, mae’n anodd iawn ceisio darogan canlyniad y gêm penwythnos yma oherwydd nad ydyn nhw’n chwarae yn yr un cynghrair.
“Dy ni ddim wedi chwarae yn erbyn Bow Street ers blynydde, ond ma’ fe’n ardal gryf am bêl-droed felly fydd hi’n gêm galed i ni,” meddai Gary Jones.
“Ni’n disgwyl ffwtbol eitha’ cloi, ond ma’n anodd dweud beth yw safon y ddau dîm gan fod ni mewn cynghreiriau gwahanol. Maen nhw tua’r un lle yn eu cynghrair nhw ag ydyn ni, ond gawn ni ffeindio mas yn y gêm!”
Dyma glip o’r chwaraewyr yn ymarfer yr wythnos yma:
Bydd Golwg360 yn adrodd nôl ar y gêm rhwng Ffostrasol ac Ail Dîm Bow Street y penwythnos yma, ond yn y cyfamser pob lwc iddynt!
Carfan Ffostrasol:
Gôl: Carwyn Thomas
Amddiffyn: Dafydd Evans, Karl Wilcox, Ian Ayres, Hywel Dafis, Gary Jones, Llewelyn Morgan, Dyfan Davies.
Canol cae: Gethin Davies (c), Alun Bowen, Owain Taylor, Rhys Bevan, Dafydd Adams, Deiniol Glyn, Rhodri Hughes, Marc Bowen.
Ymosod: Daniel Davies, Gwynfor Bowen, Carwyn Griffiths.