Glyn Boaz Myhill
Mae’r gôlgeidwad Boaz Myhill yn ystyried ei ddyfodol rhyngwladol gyda Chymru wedi iddo gael ei ddisodli gan Wayne Hennessey yn y ddwy gêm ddiwethaf.
Dewisiodd y rheolwr Chris Coleman osod Hennessey yn y gôl i wynebu Macedonia a Gwlad Belg y mis yma ar ôl i’r golwr o Fôn ddychwelyd o anaf i’w ben-glin.
Myhill oedd y dewis cyntaf cyn hynny, gan chwarae yn y ddwy gêm ym mis Medi yn erbyn Macedonia a Serbia.
Ond fe gafodd Hennessey ei ddewis yn ei le am y gemau diweddaraf er gwaetha’r ffaith ei fod yn chwarae i Yeovil sydd ar waelod y Bencampwriaeth, tra bod Myhill yn dechrau i West Brom yn yr Uwch Gynghrair.
Ansicr o’i ddyfodol
Ac mae’n ymddangos fod Myhill nawr yn ystyried ei ddyfodol rhyngwladol gyda Chymru ar ôl datgelu bod penderfyniad Coleman wedi ei dristhau.
“Roeddwn i wedi siomi’n fawr,” meddai wrth Express & Star Canolbarth Lloegr. “Wna i ddim dweud celwydd, roeddwn i’n ddigalon iawn.
“Wnes i ffeindio hi’n anodd am ychydig o ddyddiau wedi’r gêm gyntaf ond mae’n un o’r pethau yna sy’n digwydd.
“Mae rheolwyr yn dewis pwy fynnen nhw, ond o bersbectif personol dw i ddim yn gweld beth mwy alla i wneud ar lefel clwb.
“Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n chwarae ond wnes i ddim. Mae wedi gwneud i mi feddwl os oes unrhyw beth alla i fyth wneud i gael yn y tîm, ond mae honno’n drafodaeth at rywbryd arall.”
Mae gan Gymru gêm gyfeillgar yn erbyn y Ffindir fis nesaf yng Nghaerdydd, ac mae dyfodol Coleman hefyd yn y fantol gan fod ei gytundeb gyda’r tîm rhyngwladol yn dod i ben wedi’r gêm honno. Does dim arwydd hyd yma a fydd yn arwyddo cytundeb newydd ai peidio.