Mike Phillips
Mae mewnwr Cymru, Mike Phillips, wedi ymddiheuro i gefnogwyr clwb Bayonne am fynd yn feddw i sesiwn hyfforddi.
Roedd adroddiadau ddoe y byddai Bayonne yn diswyddo chwaraewr rhyngwladol Cymru ond mae’r clwb wedi gwadu hynny ar eu gwefan.
Fe fydd Bayonne yn chwarae gartref yn erbyn Montpellier heno ond mae Phillips wedi ei adael allan o’r garfan.
Neithiwr, aeth Mike Phillips ar Twitter er mwyn ymddiheuro i gefnogwyr Bayonne.
Mewn Ffrangeg, dywedodd: “Hoffwn ymddiheuro i holl gefnogwyr Bayonne am y sefyllfa yma. Rwy’n cytuno’n llwyr gyda’r tîm ar gyfer nos fory. Pob lwc!”