Abertawe 1–1 Kuban Krasnodar
Cafodd camgymeriad hwyr Gerhard Tremmel ei gosbi’n hallt ar y Liberty nos Iau wrth i Djibril Cissé gipio pwynt i Kuban Krasnodar gyda chic o’r smotyn yn yr eiliadau olaf.
Roedd hi’n ymddangos fod gôl Miguel Michu yn mynd i fod yn ddigon i’r Elyrch sicrhau trydedd buddugoliaeth allan o dair yng ngrŵp A Cynghrair Ewropa. Ond ildiodd gôl-geidwad Abertawe, Tremmel, gic o’r smotyn hwyr i gyflwyno gêm gyfartal i’r ymwelwyr.
Jonjo Shelvey heb os a gafodd gyfle gorau hanner cyntaf di sgôr. Cyfunodd chwaraewr canol cae Abertawe yn dda gyda Wilfred Bony a Michu i greu’r cyfle iddo’i hun ond roedd ei ergyd yn hynod siomedig.
Yn y pen arall fe wnaeth Chico Flores atal gôl sicr i Cissé gyda gwaith gwych ar ei linell gôl ei hun. Ac roedd un o amddiffynnwr arall yr Elyrch yn hynod ffodus i aros ar y cae ar ôl atal Lorenzo Melgarejo ag yntau yn glir ar y gôl.
Roedd Abertawe yn gryfach wedi’r egwyl ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner gyda gôl daclus Michu. Cyfunodd y Sbaenwr yn gelfydd gyda’i gyd wladwr, Álex Pozuelo, cyn cyrraedd y bêl o flaen gôl-geidwad Kuban, Aleksandr Belenov.
Cafodd yr Elyrch hanner cyfleoedd i ddyblu’r fantais wedi hynny ond cawsant eu cosbi am fethu yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Lloriodd Tremmel Ibrahima Baldé yn y cwrt cosbi cyn cael ei guro o ddeuddeg llath gan Cissé.
Ymateb
Wedi’r gêm, fe wnaeth capten Abertawe ar y noson, Neil Taylor, gydnabod nad oedd ei dîm ar eu gorau, ond roedd yn hynod siomedig serch hynny i ildio’r fuddugoliaeth mor hwyr.
“Siomedig iawn i fod yn onest. Byddai buddugoliaeth wedi bod yn wych i ni. Doedden ni ddim ar ein gorau heno ond fe weithion ni’n galed yn yr ail hanner a chael y gôl.”
“Ond dim ond un gawsom ni, ac fe chwaraeon nhw yn dda iawn chwarae teg, a gyda dim ond un gôl o fantais mae yna wastad berygl.”
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Tiendalli (Rangel 59′), Taylor, Shelvey, Chico, Amat, Dyer (Lamah 77′), Cañas, Bony (Alvaro 59′), Michu, Pozuelo
Gôl: Michu 68’
Cardiau Melyn: Tiendalli 36’, Tremmel 90’
.
Kuban Krasnodar
Tîm: Belenov, Kozlov, Zhavnerchik, Fidler, Luiz Reame, Armas, Khubulov (Ignatjev 69′), Kaboré, Cissé, Popov (Baldé 76′), Melgarejo (Bucur 63′)
Gôl: Cissé 90’
Cerdyn Melyn: Armas 41’
.
Torf: 14,000