Steve Shingler
Yn dilyn eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Cwpan Heinken hyd yn hyn, mi fydd y Scarlets yn ceisio parhau a’u llwyddiant ar y cae wrth iddyn nhw deithio i’r Eidal.
Bydd ychydig o newidiadau i’r tîm a heriodd Racing Metro dros y penwythnos.
Wedi gwella o’i anaf fe fydd Gareth Davies yn dechrau yn safle’r mewnwr a Steve Shingler yn gwisgo crys rhif 10 i’r rhanbarth o’r gorllewin. Efallai bydd yna gyfle i’r prop o Rwmania, Horatiu Pungea gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets.
‘‘Fel tîm, rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tymor yma, mae gennym chwaraewyr sydd wedi ymrwymo’n llwyr i’r hyn yr ydym yn ceisio datblygu yma. Rydym yn gwybod bod Zebre yn datblygu fel tîm ac ni fydd hi’n gêm rhwydd o bell ffordd,’’ meddai hyfforddwr ymosod y Scarlets, Mark Jones.
Ni fydd Ken Owens, Rob McCusker, Jordan Williams, a Deacon Manu ar gael oherwydd anafiadau.
Tîm y Scarlets
Olwyr – Liam Williams, Nick Reynolds, Jon Davies (Capten), Scott Williams, Kristian Phillips, Steve Shingler a Gareth Davies.
Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Jacobie Adriaanse, George Earle, Jo Snyman, Aaron Shingler, John Barclay a Josh Turnbull.
Eilyddion – Kirby Myhill, Rob Evans, Horatiu Pungea, Jake Ball, Sione Timani, Rhodri Williams, Rhys Priestland a Gareth Maule.