Mike Phillips
Mae adroddiadau o Ffrainc yn awgrymu fod mewnwr Cymru Mike Phillips wedi’i ddiswyddo gan ei glwb Bayonne.

Cafodd Phillips ei alw i mewn i gyfarfod disgyblu gan y clwb ddydd Llun, ynghyd a dau o’i gyd-chwaraewyr Dwayne Haare a Stephen Brett.

Daeth hynny yn sgil honiadau fod y tri ohonynt wedi mynychu sesiwn dadansoddi fideo ar y 10fed o Hydref o dan ddylanwad alcohol.

Ac yn ôl adroddiadau gan Midi Olympique yn Ffrainc, mae’r clwb o Ffrainc wedi penderfynu fod y drosedd yn ddigon difrifol i ddiswyddo Phillips.

Ar y llaw arall mae’n ymddangos mai dim ond dirwyon mae’r ddau ŵr o Seland Newydd wedi’i dderbyn, gan mai hon yw eu trosedd gyntaf.

Nid dyma’r tro cyntaf i Phillips fod mewn trwbwl gyda’r clwb, ar ôl derbyn un gwaharddiad eisoes am ddeg diwrnod nôl ym mis Medi 2012 wedi iddo fod allan yn yfed heb ganiatâd.

Cafodd hefyd ei wahardd o garfan Cymru yn 2011 wedi ffrae gyda bownser y tu allan i McDonalds yng Nghaerdydd wedi noson allan.

Roedd y mewnwr 31 oed, sydd â 77 o gapiau dros ei wlad, yn rhan o garfan y Llewod a enillodd yn erbyn Awstralia’r haf yma.

Mae wedi cael ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref, ac fe ddywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland ar y pryd na fyddai’n cael ei ddisgyblu gan Gymru am unrhyw droseddau gyda’i glwb.

Dyw Bayonne heb gadarnhau’r newyddion yn swyddogol eto, ond mae disgwyl iddyn nhw wneud cyhoeddiad ar y mater yn yr oriau nesaf.