Mi fydd yr asgellwr Richard Smith yn gwneud ei ddechreuad cyntaf y tymor hwn dros y rhanbarth, wrth iddynt herio Ulster nos yfory yn Ravenhill.

Mi fydd Smith yn cymryd lle Alex Cuthbert a oedd wedi cael anaf yn ystod buddugoliaeth y Gleision dros Toulon y penwythnos diwethaf yn y Cwpan Heineken.  Yn ogystal fe fydd Dafydd Hewitt yn dechrau yn y canol yn lle Owen Williams i reoli’r canol cae gyda Cory Allen.  Nid oes yna unrhyw newidiadau yn y blaenwyr.

‘‘Maent yn dîm arbennig â chwaraewyr rhagorol.  Mae yna unigolion yn y tîm sydd yn gallu rheoli’r gêm, mae John Afoa a Rory Best yn rheoli yn y blaen a Ruan Pienaar a Paddy Jackson yn yr olwyr heb anghofio am yr asgellwyr Andrew Trimble a Tommy Bowe,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision.

Tîm y Gleision

Olwyr – Leigh Halfpenny, Richard Smith, Cory Allen, Dafydd Hewitt, Harry Robinson, Rhys Patchell a Lloyd Williams.

Blaenwyr – Gethin Jenkins (Capten), Marc Breeze, Scott Andrews, Bradley Davies, Filo Paulo, Josh Navidi, Sam Warburton a Robin Copeland.

Eilyddion – Kristian Dacey, Sam Hobbs, Taufa’ao Filise, Lou Reed, Rory Watts-Jones, Lewis Jones, Gareth Davies a Chris Czekaj.