Yn ein heitem wythnosol newydd, bydd Golwg360 yn rhoi sylw i dîm chwaraeon lleol, gan ddod i nabod rhai o’r cymeriadau ac edrych ymlaen at eu gêm ar y penwythnos. Yr wythnos hon pêl-droedwyr CPD Ffostrasol sydd o dan sylw wrth iddyn nhw baratoi am gêm gwpan yn erbyn Ail Dîm Bow Street.
Proffil y Clwb
Enw: Clwb Pêl-droed Ffostrasol Wanderers
Ffugenw: ‘Ffos’
Ffurfiwyd: 1963
Cae: Parc Troedyrhiw
Lliwiau: Gwyn a Du
Rheolwr y Tîm: Gary ‘Moc’ Jones
Capten: Gethin Davies
Yn dilyn canlyniad parchus i ‘Tîm yr Wythnos’ Golwg360 yr wythnos diwethaf, wrth i Lanrug frwydro nôl i sicrhau pwynt yn erbyn Dinbych oedd ar frig Cynghrair y Welsh Alliance, pêl-droedwyr y de sy’n hawlio’r sylw yr wythnos hon.
Mae CPD Ffostrasol Wanderers bellach yn chwarae yn Ail Adran Cynghrair Ceredigion ers nifer o flynyddoedd, o dan y chwaraewr-reolwr Gary ‘Moc’ Jones, gan orffen yn 6ed yn y tabl llynedd.
Mae pentref Ffostrasol wedi’i leoli yn Ne Ceredigion, ychydig filltiroedd o Landysul a tua hanner awr o Gaerfyrddin.
Tlws diwethaf y clwb oedd Cwpan Ceredigion yn 2004, ac ar hyn o bryd maen nhw’n chwarae yn y bumed haen o bêl-droed Cymru, dwy adran o dan Cynghrair Spar y Canolbarth.
Roedd 2013 yn flwyddyn ddathlu hanner canrif bodolaeth y clwb.
Ar hyn o bryd mae’r tîm yn gorwedd yn y pumed safle yn y gynghrair, ar ôl ennill pedair a chael un gêm gyfartal o’u naw hyd yn hyn.
Tymor gweddol
Ar ôl dechrau parchus i’r tymor mae’r clwb yn gobeithio cynnal y safon am weddill y flwyddyn, yn ôl y rheolwr.
“Ni’n cal tymor gweddol hyd yn hyn, ond ma’ digon o sgwad da ni eleni,” meddai Gary Jones.
“Ni wedi colli ambell i gêm ddylen ni falle bod wedi cal gêm gyfartal, ond fi’n eithaf hapus hyd yn hyn.”
“Ma’ jyst angen i ni gadw’r safon lan drwy’r tymor, achos blwyddyn diwetha’ wnaethon ni ddim gwneud mor dda yn ail hanner y tymor.”
Clwb Cymraeg
Mae Gary hefyd yn falch o wreiddiau a naws Gymreig a lleol y clwb, rhywbeth sydd yn eithaf unigryw.
“Mae ‘na griw sbeshal o fechgyn ‘ma, ma’ nhw’n gymysgedd da i fod gyda nhw,” meddai Gary. “Fi’n joio mas draw yma!”
“Ni’n dîm hollol Gymraeg hefyd sy’n beth arall, ma’ hynny’n eithaf anarferol, ac mae gyda ni lot o fechgyn ifanc sydd wedi dod drwyddo blwyddyn ‘ma o’r tîm ieuenctid, felly mae lot o fechgyn lleol yn y tîm ar hyn o bryd.”
Dyma glip o rai o’r chwaraewyr yn ymarfer yr wythnos hon cyn eu gêm fawr:
Bydd Golwg360 yn rhoi sylw i gêm gwpan Ffostrasol yn erbyn Bow Street Res. y penwythnos yma, ac yn y cyfamser dyma ragflas o’r ornest.
Carfan Ffostrasol:
Gôl: Carwyn Thomas
Amddiffyn: Dafydd Evans, Karl Wilcox, Ian Ayres, Hywel Dafis, Gary Jones, Llewelyn Morgan, Dyfan Davies
Canol cae: Gethin Davies (c), Alun Bowen, Owain Taylor, Rhys Bevan, Dafydd Adams, Deiniol Glyn, Rhodri Hughes, Marc Bowen
Ymosod: Daniel Davies, Gwynfor Bowen, Carwyn Griffiths
Cysylltwch â ni os ydych eisiau i’ch clwb chi gael sylw Tîm yr Wythnos Golwg360 #timyrwythnos