Michael Laudrup
Er gwaethaf yr anafiadau yng ngharfan Abertawe, mae rheolwr yr Elyrch Michael Laudrup yn ffyddiog y gall ei dîm ymdopi i frwydro ymlaen a’u tymor.

Mae cefnwr chwith yr Elyrch Ben Davies allan am fis wedi iddo anafu ei ffêr yn ystod buddugoliaeth Abertawe yn erbyn Sunderland.  Wedi chwarae unwaith mewn pum gêm i Abertawe, mae’n ansicr eto pryd fydd Capten Abertawe, Ashley Williams yn dychwelyd o anaf i’w bigwrn.

Wedi colli dau chwaraewr allweddol yn yr amddiffyn, mae Laudrup yn ffyddiog bod ganddo ddigon o ddyfnder yn ei garfan i barhau a’u tymor.

‘‘Mae un chwaraewr wedi bod allan am bum wythnos a’r llall am dri neu bedwar.  Ond mae gen i ffydd yn Jodi a Neil sydd wedi dangos yr hyn maen nhw’n gallu ei wneud ar y cae,’’ meddai Laudrup.

‘‘Dwi ddim yn credu bod un chwaraewr yn hapus i gymryd lle chwaraewr arall oherwydd ei fod wedi derbyn anaf, ond dyna beth ddigwyddodd â Ben pan oedd Neil wedi cael ei anafu.

“Mae Neil wedi chwarae dros Gymru yn ddiweddar ac mae hynny wedi rhoi hwb iddo.  Bydd angen ychydig o gemau arno i ddychwelyd yn ôl i ffitrwydd arferol,’’ ychwanegodd Laudrup.