Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnig cytundebau i rai o chwaraewyr gorau rhanbarthau Cymru.
Daeth y datganiad yn dilyn trafodaethau yn Nulyn ddoe am ddyfodol y Cwpan Heineken. Mae clybiau Lloegr a Ffrainc wedi dweud eu bod nhw am sefydlu cwpan Ewropeaidd newydd y tymor nesaf ond mae ansicrwydd am beth fydd rhanbarthau Cymru’n ei wneud.
Nes y bydd cytundeb am ddyfodol rygbi Ewropeaidd, all gymryd peth amser, mae Undeb Rygbi Cymru am gamu i’r bwlch gan fod y rhanbarthau yn pryderu na allan nhw barhau gyda thrafodaethau gyda chwaraewyr fydd yn dod at ddiwedd eu cytundebau’r tymor hwn.
Mae’r Undeb eisoes wedi ymrwymo £33 miliwn i bedwar rhanbarth Cymru dros 5 mlynedd i gadw chwaraewyr yng Nghymru. Nawr maen nhw wedi dweud bod yr arian ar gael ar unwaith i “sicrhau dyfodol o dalent Gymreig yng Nghymru.”
Felly Undeb Rygbi Cymru, nid y rhanbarthau unigol, fydd yn cynnig cytundebau i holl chwaraewyr blaenllaw’r rhanbarthau sydd allan o gytundeb ar ddiwedd y tymor hwn.
Unwaith y bydd y trafodaethau ynghylch y twrnamaint Ewropeaidd yn cael eu cwblhau’n llwyddiannus, byddai’r Undeb Rygbi Cymru yn caniatáu’r rhanbarthau i droi’n ôl at y sefyllfa bresennol gyda’r cytundebau yn cael ei ailddyrannu nôl iddynt.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: “Rwyf am ei gwneud hi’n glir i’n chwaraewyr fod gennym hyder llawn yn nyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru.
“Mae’n bwysig bod unrhyw chwaraewr sy’n ystyried ei ddyfodol ar hyn o bryd yn deall lefel y gefnogaeth mae Undeb Rygbi Cymru yn bwriadu cynnig.
“Mae ein carfan ar fin dechrau ar gyfres o gemau rhyngwladol yr hydref ac mae’n hanfodol bwysig bod pob un o’u meddyliau yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar y dasg honno.
“Fe wnes i rannu’r cynnig hwn gyda chadeiryddion y rhanbarthau ddydd Llun ac rwy’n edrych ymlaen ymateb cadarnhaol.”