Nigel Owens
Nigel Owens fydd y dyfarnwr cyntaf i ennill 100 o gapiau yn dyfarnu gemau yn y Gynghrair Geltaidd.
Bydd Nigel Owens yn dyfarnu’r gêm rhwng y Gweilch a’r Dreigiau yn Stadiwm Liberty nos Wener.
Roedd ei gem gyntaf fel dyfarnwr yn y gynghrair 11 mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i ddyfarnu mewn dau Gwpan y Byd yn 2007 a 2011 a dau rownd derfynol Cwpan Heineken yn 2008 a 2009.
Dros yr haf, fe wnaeth Nigel Owens dorri record Derek Bevan fel y dyfarnwr Cymraeg gyda’r mwyaf o gapiau rhyngwladol.
Meddai Nigel Owens: “Pan fyddwch chi’n cael y recordiau hyn, chi’n sylweddoli pa mor hir chi wedi bod o gwmpas.
“Gyda’r Rabo, dim ond hyn a hyn o gemau allwch chi ddyfarnu, ond rwy’n falch iawn i gyrraedd y garreg filltir hon. Mae’n rhywbeth doeddwn i byth yn meddwl byddai’n digwydd pan ddechreuais i yn 2002.”