Lee Byrne
Mae Lee Byrne wedi trydar ei siom a’i rwystredigaeth ar ôl iddo gael ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer eu pedair gêm yn ystod yr Hydref.
Enwodd Warren Gatland ei garfan o 35 chwaraewr ddoe , ond doedd dim lle i Byrne sydd yn chwarae yn Ffrainc i Clermont ar hyn o bryd.
Er bod Gatland wedi awgrymu yn y gorffennol y bydd yn ystyried chwaraewyr sydd yn chwarae yng Nghymru o flaen y rhai sydd dramor, mae enwau megis James Hook, Luke Charteris, Dan Lydiate, Mike Phillips a George North i gyd yn y garfan.
Carfan ‘ddim wedi’i dewis ar allu presennol’
Mynegodd Byrne ei siom brynhawn ddoe ar Twitter gan ddweud:
“Siomedig iawn i beidio cael fy ystyried gan Gymru eto, yn amlwg y garfan wedi’i dewis i brofi chwaraewyr ifanc i’r Cwpan Byd, nid ar safon a gallu presennol.”
Yn nes ymlaen fe bwysleisiodd mewn ymateb i drydariad gan WalesOnline nad oedd yn ceisio beirniadu Gatland yn bersonol, gan ddweud:
“Ddim eisiau beirniadu unrhyw un yn enwedig Gatland @WalesRugby dim ond fy marn i ar sut cafodd y dewis ei flaenoriaethu.”
Pwysleisiodd Gatland ddoe wrth gyhoeddi’r garfan fod ganddo Gwpan y Byd mewn dwy flynedd mewn golwg wrth ddewis y chwaraewyr, gan osod Byrne, sydd bellach yn 33, o dan anfantais.
Y ddau gefnwr arall yn y garfan yw Leigh Halfpenny, seren y daith wrth i’r Llewod drechu Awstralia dros yr haf, a Liam Williams sydd wedi bod yn cael tymor disglair i’r Scarlets hyd yn hyn – gyda Hook hefyd yn opsiwn yn y safle.
Ond mae Byrne ei hun hefyd wedi bod yn cael tymor da ac yn chwarae’n rheolaidd gyda Clermont, gan sgorio’r gais agoriadol y penwythnos diwethaf yn eu buddugoliaeth yng Nghwpan Heineken dros Harlequins.
‘Dim angen ymateb fel yna’
Ond yn ôl Brynmor Williams, cyn-chwaraewr Cymru a’r Llewod, dylai Byrne fod wedi delio a’r sefyllfa’n wahanol.
“Rhaid iddo dderbyn fel chwaraewr penderfyniadau’r hyfforddwr,” meddai Brynmor Williams wrth Golwg360.
“Ma’ Gatland yn paratoi am Gwpan y Byd, ac felly mae’n ddigon synhwyrol ei fod am gynnwys rhai o’r bechgyn ifanc yn y garfan.
“Ma’ rhywun fel Liam Williams yn chwarae’n arbennig o dda ar hyn o bryd, a dim ond 22 yw e – falle bod ’na ambell un dros ei 30au sydd ddim yn rhan o’r cynllun os chi’n edrych tuag at Gwpan y Byd.
“Yr unig beth all Lee wneud yw parhau i weithio’n galed i gael nôl mewn i’r garfan – ond doedd dim ishe fe ymateb fel ’na.”