Mae pedwar rhanbarth rygbi proffesiynol Cymru wedi dweud eu bod nhw’n cefnogi’r syniad o bencampwriaeth Ewropeaidd newydd i gymryd lle’r Cwpan Heineken.

Daeth y cyhoeddiad neithiwr mewn datganiad ar y cyd rhwng y Gweilch, Gleision Caerdydd, y Scarlets a’r Dreigiau.  Meddai’r clybiau eu bod nhw’n meddwl y byddai’r gystadleuaeth newydd yn cynnig “newidiadau sylweddol.”

Mae’r rhanbarthau wedi cefnogi’r bencampwriaeth Eingl-Ffrengig ar drothwy  cyfarfodydd brys sydd  â’r nod o achub y Cwpan Heineken a Chwpan Her Amlin y tymor nesaf.

Bydd y cyfarfodydd, sydd wedi eu trefnu gan Gwpan Rygbi Ewrop, yn cael eu cynnal yn Nulyn heddiw a dydd Iau, er nad yw prif glybiau Lloegr a Ffrainc yn cymryd rhan ynddyn nhw.

Mae Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr a Ligue Nationale de Rygbi yn Ffrainc eisoes wedi datgan eu bwriad i adael cystadlaethau Cwpan Rygbi Ewrop ar ddiwedd y tymor hwn ac wedi estyn gwahoddiad i dimau’r Alban, Cymru, Yr Eidal ac Iwerddon i ymuno a nhw mewn pencampwriaeth newydd sbon.

Mae Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi’r Alban ac Undeb Rygbi Iwerddon wedi dweud na fydd eu clybiau yn cymryd rhan mewn unrhyw gystadleuaeth Ewropeaidd oni bai ei fod wedi cael cefnogaeth y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ond nawr mae rhanbarthau Cymru wedi cefnogi’r syniad yn ddiamod.